Sylw rhyngwladol i ffilm llygredd plastig Cymry ifanc
- Cyhoeddwyd
Bydd ffilm fer gan ddisgyblion ifanc o Gymru sy'n codi ymwybyddiaeth ynghylch llygredd plastig yn cael ei dangos mewn nifer o wyliau rhyngwladol.
Mae'r ffilm Life of a Plastic Cup yn amlygu cyn lleied yw'r defnydd o gwpan plastig mewn parti cyn ei fod yn cyrraedd cefnfor a niweidio bywyd morol.
Cafodd y ffilm ei chreu gan ddisgyblion Academi Ffilm Blaenau Gwent, yn Nhredegar, ac mae'n cynnwys pypedau a chefndiroedd cyfrifiadurol i gyfleu'i stori.
"Pan ddechreuodd y myfyrwyr y project yma, fydden ni byth wedi dychmygu y byddai ein ffilm fach hi yn creu gymaint o argraff ar gylchdaith y gwyliau ffilm rhyngwladol," meddai'r tiwtor, Alan Terrell.
"Mae'r ffilm, trwy lygaid y cwpan plastig, sy'n cael ei leisio gan un o ein haelodau ieuengaf, yn cyfleu neges anesmwyth o drasig am lygredd plastig."
Mae eisoes wedi cael ei dangos ar gyfandir Ewrop ddwywaith y llynedd - yng Ngŵyl Ffilm Rynglwadol New Earth Krakow, yng Ngwlad Pwyl, a'r Sea and Beach Film Festival yn Alicante, yn Sbaen.
Eleni bydd yn rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol North European Fusion yn Llundain, ynghyd â nifer o ddigwyddiadau yn Unol Daleithiau America.
Yn eu plith mae Gŵyl Ffilm Providence yn Rhode Island, Gŵyl Ffilm Plant Seattle, Gŵyl Ffilm WILD Efrog Newydd, a Cinema Verde - gŵyl ffilm a chelfyddydau amgylcheddol yn Gainesville, yn Florida.
O'r 170 o blant a phobl ifanc sydd yn yr academi, fe wnaeth 20, rhwng wyth a 15 oed, weithio ar y ffilm.
Cafodd yr academi ei sefydlu fel cwmni dielw gan ddechrau ar ei waith ddwy flynedd yn ôl.
Mae'n defnyddio nawdd a rhoddion i roi gwersi di-dâl i blant ar bob agwedd o'r broses gynhyrchu ffilmiau.
"Ein nod yw sicrhau'r cyfleoedd yma i bobl ifanc, beth bynnag eu gallu," meddai'r prif diwtor, Kevin Phillips.
"Rydyn yn falch ein bod yn cau'r bwlch rhwng dosbarthiadau cymdeithasol, gan wneud yr academi'n agored i holl bobl ifanc ardal Blaenau Gwent a thu hwnt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd31 Mai 2019