'Diffyg tŷ bach' i ferch ysgol anabl o Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
imogen
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i Imogen Ashwell-Lewis fod yn yr ysgol yw ym mis Mehefin 2018

Mae merch wyth oed o Sir Fynwy wedi cael ei haddysgu adref am 20 mis oherwydd prinder tai bach anabl i blant mewn ysgolion.

Mae gan Imogen Ashwell-Lewis o Gil-y-Coed barlys yr ymennydd, ond yn ôl ei mam, Catherine Ashwell-Lewis, maen nhw wedi methu a dod o hyd i ysgol iddi ers iddi adael Ysgol Gynradd Rogiet ym Mehefin 2018.

Yn ôl Cyngor Sir Fynwy maen nhw yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Ond mae un elusen dros hawliau pobl anabl yn mynnu nad yw'r achos hwn yn unigryw ac mae rhieni plant anabl yn aml yn teimlo eu bod yn ôl-ystyriaeth.

Yn ôl Catherine Ashwell-Rice fe adawodd Imogen Ysgol Rogiet am fod ganddi nifer o bryderon, ac fe arweiniodd hynny ati hi'n dwyn achos o wahaniaethu ar sail anabledd gyda'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Dywed Cyngor Sir Fynwy eu bod nhw a'r ysgol "wedi gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau a Mrs Ashwell-Rice er mwyn datrys yr anghydfod yn 2018".

Ffynhonnell y llun, CATHERINE ASHWELL-RICE
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Sir Fynwy eu bod nhw'n gweithio gyda mam Imogen i geisio datrys y sefyllfa

Ond yn ôl Mrs Ashwell-Rice mae hi wedi darganfod ers hynny mai Ysgol Rogiet ydy'r unig ysgol yn Sir Fynwy sydd â thŷ bach addas i blant anabl, sydd wedi arwain at ddadl bellach dros gyfnod o 20 mis i gael Imogen i gael ei haddysgu mewn ysgol arall.

"Fe aethon ni i weld sawl ysgol ac roedd yna sawl rhwystr," meddai, "ac mewn rhai achosion fe alle'n nhw fod wedi gwneud addasiadau i'r tai bach, ond bod y ddihangfa dân i fyny sawl gris.

"Roedden ni'n teithio yn bellach ac yn bellach cyn i ni ddod o hyd i ysgolion oedd yn addas."

Yn ôl y teulu, er bod yna sawl addewid y byddai'r addasiadau'n cael eu gwneud yn nifer o'r ysgolion, nid yw'r sefyllfa wedi cael ei ddatrys.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn talu i diwtor fynd i gartref Imogen am dair awr, bedair gwaith yr wythnos, i roi gwersi iddi.

"Mae hyn i gyd wedi bod yn emotional rollercoaster i Imogen a finnau, oherwydd bob tro ry' ni'n meddwl bod gyda ni ysgol newydd a bod pethau'n symud ymlaen, ry' ni'n clywed nad oes modd gwneud yr addasiadau neu nad yw'r gwaith sy'n fod i ddigwydd yn cymryd lle," meddai ei mam.

"Yn amlwg mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o aflonydd i Imogen, yn addysgiadol. Yr hiraf mae hi allan o'r arfer o fynd i ysgol, yr anodda y bydd hi iddi ddychwelyd i'r drefn honno.

"Mae hi wedi arfer cael ei Mam o gwmpas y lle, dyw hi ddim wedi arfer gwisgo gwisg ysgol, ac mae hi wedi dod i'r arfer â mynd i lefydd i wneud gweithgareddau a mynd allan, pethau na fydd yn digwydd pan fydd hi yn yr ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl mam Imogen, Catherine Ashwell-Lewis, mae'r sefyllfa wedi tarfu ar addysg Imogen

Yn ôl Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, mae stori Imogen yn un gyfarwydd.

"Dwi'n nabod cymaint o bobl anabl a rhieni phlant anabl sy'n teimlo bod plant anabl yn ôl-ystyriaeth," meddai.

"Mae'r rhwystrau rhag mynychu addysg prif ffrwd yn parhau hyd heddiw, ac mae rhieni a phobl anabl yn sôn wrthon ni'n aml am y brwydrau maen nhw'n eu gwynebu er mwyn cael mynediad a chefnogaeth mewn ysgolion prif ffrwd.

"Ac er bod 25 mlynedd ers i gyfreithiau cyfleoedd cyfartal gael eu rhoi yn eu lle, mae yna fethianau o hyd yma yng Nghymru."

'Asesu achos wrth achos'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: "Mae cyfleusterau tai bach yn cael eu darparu i gyd-fynd â chanllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru (ac) mae anghenion disgyblion yn cael eu hasesu achos wrth achos, ac mae addasiadau pellach yn cael eu gwneud i dai bach anabl os ydy hynny'n angenrheidiol.

"Dechreuodd prifathro newydd yn Ysgol Rogiet yn mis Medi 2019 - rhyw 15 mis ar ôl i fam Imogen benderfynu ei thynnu hi o'r ysgol.

"Fe wnaeth yr ysgol a'r awdurdod lleol weithio gyda'r asiantaethau a Mrs Ashwell-Rice i ddatrys y sefyllfa yn 2018. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio cymedrolwr anibynnol gan Snap Cymru.

"Yn dilyn yr ymyrraeth hon cafodd y gŵyn i'r tribiwnlys ei thynnu yn ôl gan Mrs Ashwell-Rice. Mae nifer o blant yn Ysgol Rogiet sydd âg anghenion addysgol ychwanegol, yn gorfforol ac o ran datblygiad, ac mae eu gofynion nhw yn cael eu hateb yn ddyddiol.

"Fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Mrs Ashwell-Rice ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau ein bod ni'n ateb gofynion Imogen o fewn lleoliad ysgol."