Y nifer sy'n ymateb yn wael i alergeddau yn dyblu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd alergeddau wedi dyblu dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.
Yn 2010 fe wnaeth 801 o bobl fynd i'r ysbyty ar ôl ymateb yn wael i alergedd, ond roedd y ffigwr yma wedi codi i 1,628 yn 2018 - y flwyddyn ddiwethaf sydd â ffigyrau llawn.
Mae alergeddau cyffredin yn cynnwys ymateb yn wael i fwydydd fel cnau, cynnyrch llaeth a physgod cregyn, ond maen nhw hefyd yn gallu cael eu hachosi gan bethau fel pigiadau pryfaid, meddyginiaethau a phaill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pob ysgol yn derbyn cyfarwyddyd ar sut i gwrdd ag anghenion iechyd disgyblion.
Roedd mab Charlotte Murphy - Archie, sydd bellach yn saith - yn bedair oed pan gafodd wybod bod ganddo alergedd at wyau a chnau.
Mae Ms Murphy, o Gaerdydd, nawr yn ymgyrchu i newid y ffordd mae ysgolion yn delio â phlant sydd ag alergeddau difrifol.
Fe wnaeth nifer y bobl dan 18 oed gafodd eu trin am alergeddau gynyddu 49% yn yr wyth mlynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau ddaeth i'r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Wales Live.
Dywedodd Ms Murphy bod "dros 60 achlysur" ers mis Medi ble mae ei mab wedi gadael yr ysgol gydag "arwyddion amlwg o ymateb alergol".
"Mae'n rhaid i rywun fod yn atebol am y gweithredu, neu ddiffyg gweithredu, gan ysgolion yn ymwneud â phlant sydd ag alergeddau bwyd," meddai.
Mae Ms Murphy wedi sefydlu elusen, Archie's Allergies, er mwyn helpu teuluoedd plant sydd ag alergeddau.
Dywedodd Dr Tariq El-Shanawany, imiwnolegydd ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod "wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau alergeddau ers nifer o flynyddoedd".
"Mae gan ardaloedd trefol gyfradd uwch o ran alergeddau nag amgylchiadau gwledig," meddai.
"Mae bod allan yn yr awyr agored yn fuddiol am nifer o resymau, gan gynnwys lleihau'r risg o gael alergedd."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ysgolion yn derbyn cyfarwyddyd ar sut i gwrdd ag anghenion iechyd disgyblion a bod y gyfraith yn galluogi i ysgolion gadw pigiadau i'w rhoi i ddisgyblion sy'n ymateb yn wael i alergedd.
Wales Live, BBC One Wales am 22:30 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2017