Rhybudd am 'sgamio rhamant' dros gyfnod San Ffolant

  • Cyhoeddwyd
Llun stocFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mam a gafodd ei thwyllo mewn 'sgam rhamant' gwerth £17,000 yn dweud ei bod hi'n ofni y byddai'r twyll "yn ei gwthio i'r bedd".

Cafodd y fam sengl yn ei phedwardegau ei thwyllo gan ddyn ar-lein a ddefnyddiodd graffeg gyfrifiadurol i ffugio ei wyneb am y ddwy flynedd roedd y pâr yn "siarad" trwy fideo.

Daw achos y ddynes i'r amlwg wrth i uwch swyddog gyda Heddlu'r De ddweud bod 1,000 o achosion twyll yr wythnos wedi digwydd yno'n ddiweddar.

Ddydd Llun roedd yr heddlu'n rhybuddio bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o dwyll rhamant yn barod ym mis Chwefror.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heddlu De Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heddlu De Cymru

Fis diwethaf fe ddangosodd adroddiad fod twyll ledled Cymru a Lloegr bellach yn cyfrif am un o bob tri throsedd - ond dim ond 2% sy'n cael eu canfod.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Nick Bellamy, sy'n bennaeth yr Uned Troseddau Cyfundrefnol yn Heddlu De Cymru, mae twyllwyr yn "rhannu rhestrau" i dargedu pobl fregus dro ar ôl tro,

Wrth siarad â rhaglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd: "Mae'n broblem enfawr. Math o dric ydy'r math yma o ddwyn a'r hyn yr ydym am geisio ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gallu gweld y triciau hynny."

Ond mae sylwi ar y 'tric' wedi dod yn rhy hwyr i un ddynes yng ngogledd Cymru.

Mae'r heddlu'n cysylltu ag Interpol wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i'r dyn a ddywedodd wrthi ei fod yn ddyn busnes rhyngwladol wedi'i leoli yn Dallas, Texas - dinas yr oedd y ddynes wedi ymweld â hi sawl gwaith.

Fe wnaeth y pâr gyfarfod yn fuan ar ôl iddi ymuno ag Ap cariadon newydd.

'Pawb yn ymddiried ynddo'

Dywed y ddynes, sydd ddim am gael ei henwi: "Roedd yn honni ei fod yn edrych i brynu adeilad ac i symud drosodd i'r DU yn y bôn, fel y gallai sefydlu ei fusnes yma, ac roedd i fod i hedfan yn ôl i Dallas, y noson honno, rwy'n credu, neu'r diwrnod canlynol.

"Felly fe alwodd fi drwy fideo pan gyrhaeddodd o nôl i Dallas, ac yn y bôn fe fuodd o'n fy ngalw i drwy fideo yn ddyddiol wedyn.

"Fe gododd yr ymddiriedaeth o hynny ac i bwynt lle'r oedd pawb yn ymddiried ynddo.

"Roedd hyd yn oed fy ffrindiau yn ymddiried ynddo oherwydd ei fod wedi cael galwadau fideo gyda nhw."

Yr hyn y mae hi'n ei wybod bellach yw nad wyneb go iawn oedd ar y sgrin ond llun a gafodd ei ddwyn o'r rhyngrwyd a'i drin yn ddigidol i symud yn argyhoeddedig wrth iddo sgwrsio.

Ar ôl ychydig fisoedd, fe dderbyniodd hi alwad gan y dyn i ddweud ei fod mewn trafferth ar daith fusnes i Dubai.

Dywedodd fod merch wedi rhedeg o flaen ei gar hurio a bod yn rhaid iddo dalu ei biliau meddygol cyn y byddai'n cael ei bapurau swyddogol yn ôl.

"Nawr, fe edrychais ar hyn i gyd oherwydd roeddwn i'n meddwl ar y pryd nad oedd rhywbeth yn teimlo'n iawn, ond yna pan edrychais, roedd popeth yn gwneud synnwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyn wedi dweud ei fod yn cael trafferthion yn Dubai a'i fod angen arian

"Felly fe anfonais yr arian ato i dalu am y ffioedd oherwydd fe wnaeth o hefyd anfon llun ohono yn eistedd gyda'r ferch yn yr ysbyty.

"Doeddwn i ddim yn meddwl dim ohono. Roedd hi ar beiriant anadlu. Roedd yn edrych yn ddilys. Nid oedd unrhyw beth ar y llun hwn a sgrechiodd: 'Mae hwn yn ffug'."

Felly cymrodd fenthyciad am £6,000 ac anfon yr arian ato.

"A dweud y gwir, roeddwn i wedi cwympo am y boi yma.

"Fe ddywedodd ar un adeg: 'Pan gyrhaeddaf adref, rydyn ni'n mynd i fynd yn ôl i'r Unol Daleithiau ac ymhen ychydig ddyddiau rydyn ni'n mynd i gau fy musnes i lawr ac rydyn ni'n mynd i werthu popeth. Yna rydyn ni'n mynd i ddod yn ôl ac rydyn ni'n mynd i brynu tŷ mawr ac rydyn ni'n mynd i briodi'."

Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd hi'n ymddangos bod helyntion ei phartner ar-lein yn dal i bentyrru.

Ar ôl iddi fenthyg £11,000 ychwanegol i'w roi iddo, fe welodd hi'r goleuni pan ofynnodd ef am fwy o arian, a dangos dogfennau iddi oedd yn amlwg yn rhai ffug.

"Cyn i'm priodas chwalu roeddwn i yn cael trafferth gydag iselder. Pan ddaeth hyn i gyd i'r amlwg, roeddwn i'n teimlo'n isel dros ben. Roeddwn i eisiau crio.

"Roedd yn rhaid i fy ffrindiau eistedd efo fi am ychydig ddyddiau dim ond i fy nghefnogi.

"Dwi ddim yn credu fod ganddo'r un ots amdana i, a bod yn onest. Rwy'n credu y byddai wedi fy ngwthio i fedd.

"Rydw i nawr yn gweithio dwy swydd ac ar fin dechrau ar drydydd er mwyn i mi dalu'r hyn sy'n ddyledus i bobl."

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n gofyn i bobl edrych am arwyddion o dwyll pan yn cwrdd â phobl ar-lein

Mae arbenigwr seiberddiogelwch yn dweud wrth y rhaglen fod y cynnydd mewn twyll ar-lein yn ganlyniad i fethiant rheoleiddwyr i ddal banciau yn atebol am wneud arian yn "hawdd ei ddwyn".

Dywedodd Ross Anderson, Athro mewn Peirianneg Diogelwch ym Mhrifysgol Caergrawnt: "Y broblem gyda hyn i gyd ydy fod pawb yn beio'i gilydd a bod yna neb yn cymryd cyfrifoldeb.

"Mae banciau'n ceisio lleihau eu costau trwy roi cymaint o atebolrwydd ag y gallant ar eu cwsmeriaid.

"Methiant rheoleiddio ydy'r methiant sylfaenol yma, ac mae hon yn broblem adnabyddus mewn llawer o ddiwydiannau."

Dywedodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol: "Nid ydyn ni'n cytuno gyda sylwadau'r Athro Anderson. Mae'r Awdurdod yn cysylltu yn uniongyrchol gyda defnyddwyr trwy ei ymgyrch ScamSmart, sydd wedi cyrraedd cynulleidfaoedd helaeth.

"Trwy newidiad ein rheolau rydym hefyd wedi ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gyflwyno cwyn i'w banciau ac amdanyn nhw os ydyn nhw'n credu eu bod yn dioddef twyll gwthio (push payment fraud).

"Rydyn ni'n dwyn banciau i gyfrif a lle rydyn ni'n dod o hyd i fethiannau rydyn ni'n gweithredu, gyda'r FCA yn dirwyo cwmnïau bron i £5bn ers 2013."

Am fwy o wybodaeth ar sut i gadw'n ddiogel ar y wê, ewch i fan hyn, dolen allanol