Prif Weinidog â dim bwriad i ddiswyddo'r prif chwip
- Cyhoeddwyd
Mewn sesiwn danllyd yn y Senedd, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fydd yn diswyddo ei brif chwip dros ei gwrthwynebiad i gau ward ysbyty yn ei hetholaeth.
Mae AC Bro Morgannwg, Jane Hutt, sydd hefyd yn ddirprwy weinidog yn Llywodraeth Cymru, wedi protestio yn erbyn cynnig i gau un o wardiau Ysbyty'r Barri.
Wrth holi'r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Ms Hutt yn ymgyrchu yn erbyn polisi llywodraeth ei hun - cam sy'n amlygu "safonau dwbl" yn ôl Plaid Cymru.
Ond yn ystod ffrae eiriol mewn ymateb i'r cwestiwn, fe gyhuddodd Mark Drakeford Mr Price o ddiffyg dealltwriaeth ynghylch y cod gweinidogol.
'Erydu ymddiriedaeth'
Dywedodd Mr Price fod rhaid i weinidogion Llywodraeth Cymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y GIG ar y cyd.
Ychwanegodd bod "rhoi carte blanche i weinidogion pan mae'n gyfleus yn wleidyddol i ymyrryd mewn cysylltiad â materion etholaethol... rydych yn erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ac yn y sefydliad yma".
Dywedodd Mr Drakeford ei fod "prin wedi clywed mwy o nonsens yn cael ei siarad yn y Cynulliad hwn" gan ychwanegu bod Mr Price "ddim yn ddyn manylion".
"Roedd yr hyn a wnaeth yr aelod dros Fro Morgannwg yn hollol gyson â'r cod gweinidogol," meddai'r Prif Weinidog. "Mi wn oherwydd mi es i'r drafferth o edrych arno yn gynharach y prynhawn 'ma.
"A gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi: dydych chi ddim yn weinidog llywodraeth ddatganoledig am 20 mlynedd heb ddeall beth ry'ch chi yn, a ddim yn cael gwneud yn eich dyletswyddau etholaethol a gweinidogol.
"Mae gan aelod Bro Morgannwg fwy o ddealltwriaeth yn ei bys bach o'r cywirdeb a'r gwedduster sy'n ofynnol o weinidogion nag y mae ei gwestiwn e [Adam Price] y prynhawn 'ma yn ei amlygu."
'Dim gwrthdaro'
Atebodd Mr Price bod y cod yn "hollol glir" bod gweinidogion "ddim yn gallu ymgyrchu yn erbyn polisi Llywodraeth".
"Mae cau'r ward yma'n ganlyniad uniongyrchol polisi eich Llywodraeth eich hun," dywedodd. "Dyna'r pwynt. Rydych mewn perygl, ar fater y GIG, o droi safonau dwbl yn gelfyddyd.
"Mewn seneddau eraill... fel prif chwip bydde'n rhaid iddi gael gair caled â'i hun, ac efallai tynnu'r chwip oddi ar ei hun.
"Gallech chi ddim dyfeisio'r fath beth, Prif Weinidog, ond dyna rydych chi yn ei wneud dro ar ôl tro pan mae hynny'n gyfleus yn wleidyddol."
Roedd Mr Drakeford yn ymddangos yn ddig, pan atebodd, gyda chopi o'r cod gweinidogol yn ei law: "Dydw i ddim yn dyfeisio dim byd, ond mae e yn bendant. Does dim gwrthdaro [buddiannau ar ran Ms Hutt] o gwbl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020