Pryder teuluoedd dros ofal iechyd meddwl anwyliaid

  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd cleifion o Gymru sy'n cael gofal arbenigol mewn uned iechyd meddwl yn Northampton wedi mynegi pryder am y sefyllfa.

Dywedodd arolygwyr Comisiwn Safonau Gofal Lloegr (CQC) ym mis Ionawr bod yna "fethiannau mynych a systemig" yn arweinyddiaeth yr elusen St Andrew's.

Mae 31 claf o Gymru'n byw yn yr uned ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gyfeirio mwy o gleifion i bedair o wardiau'r darparwr sy'n arbenigo mewn rhoi gofal mewn achosion cymhleth.

Dywed St Andrew's Healthcare bod yna arweinwyr newydd erbyn hyn sy'n ymrwymo i sicrhau gwelliannau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arolygwyr wedi codi nifer o bryderon ynghylch y ffordd y mae elusen St Andrew's Healthcare yn cael ei rhedeg

Mae Wayne Erasmus yn honni bod yr elusen wedi symud ei fab awtistig 31 oed, Huw i'w huned yn Birmingham o uned arall yng Nghaerfyrddin yn ddirybudd, ac yna i uned yn Northampton.

Mae'n dweud nad yw wedi gweld na siarad gyda Huw ers tair blynedd.

"Amser o'dd e'n Caerfyrddin o'n i'n gallu clywed ei lais e amser o'dd e'n gofyn am siarad i Mam neu Dad," meddai. "Ers mae e 'di mynd i St Andrew's - total blackout."

"Amser ma' fe'n poeni, mae e'n gwneud nag yw e am siarad â'r teulu. Ond wedyn amser ma' fe am siarad â'r teulu, rhaid iddo aros wedyn ryw bythefnos i ga'l y fortnightly review.

"A os mae e 'di newid ei feddwl wedyn maen nhw'n dod ymlaen arno fe wedyn i dal at y 'No contact with the family' a ma' nhw'n cwato, yn fy marn i, tu ôl i hwnna."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jane Haines bod yna gyfyngiadau o ran yr hyn mae hi'n cael trafod gyda'i merch

Claf arall sy'n byw yn yr uned yw Ayla Haines, o Sir Gâr, sydd â phroblemau iechyd yn cynnwys anorecsia ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD).

Dywed mam Ayla, Jane Haines, nad ydy hi'n cael cysylltu â hi mor aml ag y mae'n dymuno ac mae hi'n poeni am lefel y gofal amdani.

"Mae hi yn yr amgylchedd anghywir," meddai. "Dydi e ddim yn gydnaws â gwella ac mae hi'n dal i waethygu.

"Mae'r staff yn gwneud gwaith aruthrol ac maen nhw'n ymladd brwydr amhosib i'w hennill. Mae e lawr i'r rheolwyr... dylai'r ward o leiaf fod â digon o staff ond dydy e ddim llawer o'r amser.

"Rydyn ni'n cael ein cyfyngu i bedair galwad ffôn yr wythnos ond am y 18 wythnos diwethaf mae wedi bod yn dair galwad ffôn 10-munud yr wythnos. Mae'n uffern. Dyna oedd yn ei chadw i fynd, dyna oedd ei rheswm i fyw...

"Mae yna gyfyngiadau o ran yr hyn ry'n ni'n cael trafod. Dim trafod meddyginiaeth, dim trafod y staff, dydw i ddim yn cael rhoi gobaith iddi a dweud 'fe gawn ni ti'n ôl i Gymru'."

Pryderon yr arolygwyr

Pan ymwelodd arolygwyr CQC â phencadlys yr elusen fis Hydref y llynedd, daeth i'r amlwg bod ffrwyno cleifion yn gorfforol ar gynnydd, er gwaethaf cynllun i leihau'r arfer.

Roedd yna ddiffygion hefyd yn y ffordd roedd teuluoedd yn cael gwybod bod unrhyw beth wedi mynd o'i le yn achos eu perthynas.

Dywedodd arolygwyr bod staff ddim yn ddigon hyderus ar brydiau i godi pryderon heb ofni i rywun ddial arnyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 31 o gleifion o bob rhan o Gymru'n byw yn uned St Andrews Healthcare yn Northampton

Doedd St Andrew's Healthcare ddim am wneud sylw am achosion unigol, ond dywedodd llefarydd eu bod "yn gweithio'n agos gyda GIG Cymru" i sicrhau'r gofal gorau a mwyaf priodol i gleifion ag anghenion dwys, gan geisio sicrhau eu bod nhw'n dychwelyd yn agos i'w cartrefi cyn gynted â phosib.

"Yn aml mae angen cymryd llawer o ffactorau i ystyriaeth sy'n golygu, ar brydiau, bod angen triniaeth a goruchwyliaeth arbenigol iawn ar yr unigolion bregus yma mewn lleoliad diogel," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd eu bod yn gwerthfawrogi craffu gan bartneriaid allanol er mwyn gwella'u gwasanaeth.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu bod yn cymryd pryderon ynghylch gofal a thriniaeth cleifion o ddifrif ac yn adolygu pryderon neu adborth ar y cyd â'u partneriaid.

"Rydym yn parhau i gynnal adolygiadau rheolaidd o'r holl gleifion sydd wedi'u lleoli tu hwnt i Gymru," medd datganiad y bwrdd.

"Mae hyn yn cynnwys parhau â'r cysylltiad i sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed yn uniongyrchol neu drwy adfocad."

Mae St Andrew's Healthcare yn trin hyd at 900 o gleifion iechyd meddwl yn Northampton, Birmingham, Sir Nottingham ac Essex. Mae 90% o'r ceisiadau am ofal yn dod gan y GIG.