Oedi pellach i waith ar ffordd osgoi Llandeilo

  • Cyhoeddwyd
Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwsinau o lorïau yn pasio drwy Llandeilo yn ddyddiol

Mae'r gwaith o adeiladu ffordd osgoi newydd yn Llandeilo yn wynebu oedi pellach.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai gwaith ar y ffordd newydd yn dechrau ddiwedd y llynedd.

Ond mewn llythyr sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, dywed y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates na fyddai'r gwaith yn cychwyn cyn hydref 2022.

Mae'r brif ffordd trwy ganol cul y dref yn cael ei defnyddio fel llwybr o'r de i ymuno â'r A40 hyd at ganol Cymru a chanolbarth Lloegr.

Mae lefelau llygredd aer yn uwch na'r safonau cenedlaethol a dywed pobl leol fod y broblem yn gwaethygu.

Maen nhw wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau am lwybr newydd o amgylch y dref.

Gwrthwynebiad elusen

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £50m i ariannu llwybr newydd sy'n osgoi'r dref ar ôl cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru yn 2016.

Ond dywed Adam Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac arweinydd Plaid, ei fod wedi derbyn llythyr gan Mr Skates yn cadarnhau oedi tan hydref 2022 o leiaf.

Yn y llythyr dywed Mr Skates fod gwaith ar y ffordd osgoi wedi cael ei ohirio oherwydd gwrthwynebiadau gan yr elusen cerdded a beicio, Sustrans.

Dywedodd: "Fe ofynnon nhw am ddarparu seilwaith cerdded a beicio ychwanegol i wella cysylltedd ar draws ardal yr astudiaeth, gan nodi nad yw'r cynigion yn mynd yn ddigon pell i hyrwyddo cerdded a beicio yn ardal yr astudiaeth."

Ychwanegodd y byddai argymhellion drafft yn barod erbyn haf eleni ac "y gallai prosiect fod yn barod i'w adeiladu yn hydref 2022".

'Cic i drigolion Sir Gâr'

Dywed Mr Price ei fod bellach yn ceisio cael cyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru a disgrifiodd y llythyr fel "cic yn y dannedd i drigolion Sir Gaerfyrddin" ac y byddai'n "chwyddo'r drwgdybiaeth sydd eisoes yn ddwfn mewn gwleidyddiaeth ac yn dwyn anfri ar ein system ddemocrataidd gyfan".

Ychwanegodd: "Nid yw gweinidogion wedi awgrymu ar unrhyw achlysur na fyddai'r ffordd osgoi yn cael ei gwblhau, ond mae'n ymddangos bod hynny bellach yn risg wirioneddol."

Mewn datganiad dywed Sustrans nad yw prosiect Llandeilo yn ddigon uchelgeisiol i wella diogelwch cerddwyr a beicwyr yn y dref.

Dywed datganiad gan Lywodraeth Cymru: "Mae Ffordd Osgoi Llandeilo yn cael ei hasesu yn erbyn Canllawiau Gwerthuso Trafnidiaeth Cymru.

"Y cam nesaf fydd arddangosfa gyhoeddus ac ymgynghoriad Cam 2 yr ydym yn disgwyl y bydd yn digwydd erbyn mis Ebrill.

"Yn amodol ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad, byddai argymhellion drafft yn cael eu gwneud erbyn yr haf. "