Chwe Gwlad: Cymru yn ffyddiog am ffitrwydd Dan Biggar

  • Cyhoeddwyd
Dan Biggar
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl bydd Dan Biggar ar gael ar gyfer gêm nesaf Cymru yn erbyn Ffrainc

Mae Cymru yn hyderus y bydd Dan Biggar yn gallu dechrau eu gêm nesaf yn y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc yr wythnos nesaf.

Roedd yn rhaid i Biggar adael y cae yn ail hanner y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn ar ôl gwrthdrawiad gyda'r canolwr Robbie Henshaw.

Methodd Biggar asesiad ergyd i'r pen ar ôl gadael ac ni ddychwelodd i'r cae wedi hynny.

Dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins, bod Biggar yn "gwella'n iawn" ac yn "gobeithio byddai'n iawn ar gyfer wythnos nesaf".

"Mae'n chwaraewr ystyfnig, fel y gwelsoch chi ddydd Sadwrn achos roedd e'n anodd ei orfodi i adael y cae, ond gobeithio bydd e'n gwneud popeth mae angen ei wneud a bydd e nôl ac yn barod i wynebu Ffrainc."

Mwy o newidiadau

Ar hyn o bryd mae'r maswyr Gareth Anscombe a Rhys Patchell dal wedi'u hanafu, felly dim ond Jarrod Evans sydd ar gael i chwarae fel maswr yn y tîm, ar ôl i Owen Williams ddioddef anaf dros y penwythnos.

Dywedodd Jenkins ei bod hi'n bosib y gall Sam Davies, Angus O'Brien a Dan Jones - neu'r maswr o dîm dan 20 Cymru, Sam Costelow - gael eu galw i'r garfan.

Mae tîm meddygol Cymru hefyd yn hyderus bydd yr asgellwr Josh Adams yn gallu dychwelyd i ymarfer gyda'r garfan yn hwyrach yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei orfodi oddi ar y cae yn erbyn Iwerddon gydag anaf i'w glun.