Cwest Sepsis: Meddyg yn ymddiheuro am farwolaeth babi

  • Cyhoeddwyd
Aidan Crawford a Kirsty Link
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Lewys, Aidan Crawford a Kirsty Link, eisiau gwybod pam fu oedi cyn ei drin am sepsis

Mae meddyg wedi ymddiheuro am y methiannau gofal arweiniodd at farwolaeth bachgen tri mis oed o sepsis.

Bu farw Lewys Crawford, o Gaerdydd, o septisemia meningocaidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2019.

Yn ystod cwest i farwolaeth y babi fe ymddiheurodd Dr Jennifer Evans - ymgynghorydd meddygol pediatrig sydd wedi bod yn ymchwilio i'r farwolaeth - i rieni Lewys.

Yn siarad â rhieni Lewys yn y cwest, dywedodd Dr Evans eu bod wedi "colli nifer o gyfleoedd".

"Mae wir yn flin gen i am hynny," meddai.

Clywodd y cwest yn gynharach fod meddyg pediatrig wedi "camfarnu" triniaeth Lewys, ac fe gafodd ei awgrymu bod "pedwar cyfle wedi'u colli" i roi triniaeth iddo.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lewys Crawford ddiwrnod ar ôl cael ei gymryd i'r adran frys

Clywodd y cwest y dylai Lewys fod wedi derbyn gwrthfiotigau o fewn awr o gael ei weld, yn hytrach na'r saith awr gymerodd hi mewn gwirionedd.

Dywedodd cyfarwyddwr clinigol yr adran frys, Dr Katja Empson, ei bod hi'n "flin iawn" nad oedd ymgynghorydd meddygol pediatrig ar gael i asesu Lewys pan gyrhaeddodd yr uned.

Ychwanegodd pe bai ymgynghorydd pediatrig wedi ei weld nad oes unrhyw amheuaeth ganddi y byddai Lewys wedi derbyn gwrthfiotigau yn syth, a'i bod yn "flin iawn am hynny".

Dywedodd Dr Empson bod rhieni Lewys yn "hollol" gywir i ddod ag ef i'r adran frys.

Clywodd y cwest bod 20 claf yn yr uned argyfwng pediatrig, a bod dau blentyn oedd yn "fwy sâl" na Lewys yno.

Dywedodd Dr Empson: "Bydd hi'n cymryd cwpl o flynyddoedd yn rhagor i recriwtio digon o ymgynghorwyr pediatrig argyfwng i fod yno trwy gydol yr wythnos."

Ychwanegodd fod hyn yn debyg i'r sefyllfa mewn ysbytai eraill.

Mae'r cwest yn parhau.