Albym Al Lewis yn rhoi ‘golau newydd’ ar Te Yn Y Grug
- Cyhoeddwyd
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bron i 60 mlynedd wedi cyhoeddi'r gyfrol Te Yn Y Grug derbyniodd y cerddor Al Lewis yr her o osod straeon eiconig y llenor Kate Roberts i gerddoriaeth.
Mae'r casgliad o straeon yn darlunio bywyd plentyn yng nghefn gwlad Cymru ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac yn cael ei chyfrif yn un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg.
Ar y cyd â Karen Owen a Cefin Roberts, a oedd yn gyfrifol am y geiriau, aeth Al ati i gyfansoddi sgôr y sioe gerdd a gafodd ei pherfformio ar lwyfan pafiliwn Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Ddydd Gwener mae'n rhyddhau ei ddehongliad ei hun o ganeuon y sioe ac yn mynd ar daith o amgylch Cymru. Aeth Cymru Fyw am baned gydag o i'w holi am y prosiect.
"O'n i newydd orffen sgwennu'r gân ola', a felly roedd gen i deimlad o 'Be nesa?"'
"Roedd 'na ryw bedwar neu bum mis i fynd nes yr Eisteddfod ond roedd fy rôl i fel cyfansoddwr wedi dod i ben. Roedd gen i deimlad o fod i wedi treulio'r holl amser yna'n gwneud yr holl ganeuon 'ma iddyn nhw jest cael eu perfformio unwaith yn yr Eisteddfod.
"Roedd hynny i mi'n teimlo'n siom.
"Felly dyna le ges i'r syniad o wneud albym ohonyn nhw a rhoi slant mwy 'fi' i'r holl beth."
Efallai y byddai llawer o bobl yn meddwl ei fod yn gysyniad eithaf od: dyn yn ei 30au yn canu am stori tair o enethod bach o Ddyffryn Nantlle. Beth wnaeth ei argyhoeddi fod hwn yn syniad da?
"O'n i'n teimlo bod geiria' Karen yn canu ata' i oddi ar y dudalen. Fel canwr, dw i'n meddwl mai'r peth da mae Karen wedi'i wneud ydy medru gwneud y stori, o un safbwynt, yn berthnasol iawn i'r cymeriadau ond hefyd mae 'na rhyw deimlad byd-eang yn yr hyn mae hi'n sôn amdano. O'n i'n teimlo 'mod i'n medru uniaethu er mod i'n ddyn yn ei 30au.
"Mae 'na ymdeimlad o golled, cymuned, crefydd yn y geiriau - yr holl bethau 'ma o'n i wedi'u profi. Roedd hi'n lot haws na be' nes i feddwl fysa fo i uniaethu efo Winni a Begw."
Themâu oesol yn cynnal poblogrwydd
Mae Te Yn Y Grug yn gyfrol y mae sawl cenhedlaeth o blant Cymru wedi'i darllen, oedd Al yn un o'r plant 'rheiny?
"Do'n i ddim yn sylweddoli fod cymaint o blant wedi darllen y nofel yn 'rysgol, achos do'n i ddim wedi," meddai Al.
"Dwi'n meddwl fod 'na lot o foesau pwysig yn Te Yn Y Grug. Oedd o'n ddiddorol i mi ei ddarllen o flwyddyn yn ôl a meddwl gymaint sy' dal yn berthnasol heddiw o be oedd hi'n sgwennu amdano fo ddegawdau'n ôl. Mae'n amlwg fod 'na reswm pam ei fod o wedi goroesi mor hir a pam mae pobl yn dal i licio'i ddarllen o.
"Dw i'n meddwl fod Kate Roberts weithiau'n cael ei chamddeall a dw i'n gobeithio 'mod i wedi rhoi rhyw olau newydd ar yr hyn oedd hi'n trïo'i gyfleu."
Ar ei albwm mae Al wedi defnyddio clipiau sain o Kate Roberts yn siarad. Beth oedd y feddylfryd tu ôl i hynny?
"[Yn y sioe wreiddiol] mae gen ti gân bop, wedyn cân werin, wedyn mae gen ti gân mwy jazz ac o'n i'n meddwl 'sut mae hyn am glymu efo'i gilydd mewn albym heb swnio'n wirion?'
"Ges i syniad dros yr haf am ffordd arall y byswn i'n gallu ei glymu o'i gyd at ei gilydd, sef cael llais Kate Roberts ar yr albym.
Lleisiau'r gorffennol
"Es i i archif y BBC llynedd jyst cyn mynd i'r stiwdio recordio a jyst mynd trwy'r archif. Nes i jest gofyn, 'Rhowch be bynnag sy gynnoch chi efo Kate Roberts ynddo fo o 'mlaen i a 'na i bori drwyddo fo a gweld a oes na rywbeth o werth.' Fues i yna am ryw ddeuddydd.
"Nes i wedyn fynd i Amgueddfa Sain Ffagan a gofyn 'run fath ond am glipiau o gychwyn y ganrif ddiwetha; pobl Dyffryn Nantlle yn siarad am fywyd yn y chwarel. Wedyn nes i jyst pori drwyddo fo a trïo ffendio pethau oedd yn addas i'r caneuon 'ma. Dw i'n blês efo be nes i ffendio.
Mynd â'r stori'n ôl i'r gymuned
"Hefyd, dwi'n meddwl ei fod o'n rhoi bach mwy o gefndir i bobl sy ella ddim yn gyfarwydd efo Kate Roberts neu'r llyfr, a'r hyn oedd hi'n trio cael drosodd yn y storis 'ma.
"Dyna pam o'n i isio cael côr lleol efo fi ar y daith, ddim jyst fi a'r band, achos i fi mae'r côr yn cynrychioli'r gymuned yn y straeon; nhw ydy pobl Rhosgadfan, y bobl mae Kate Roberts yn sôn amdan."
Mae Te Yn Y Grug allan ddydd Gwener, Chwefror 21 ac mae'r daith yn dechrau yn Aberystwyth yr un noson.
Hefyd o ddiddordeb