Nick Ramsay AC ddim am fynd â'r Blaid Geidwadol i'r llys

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nick Ramsay ei ethol fel AC Mynwy yn 2007

Mae'r AC Ceidwadol, Nick Ramsay yn dweud ei fod yn dod ag achos cyfreithiol yn erbyn arweinydd y blaid yn y Cynulliad i ben ar ôl cael ei aildderbyn i'r grŵp ym Mae Caerdydd.

Roedd AC Mynwy wedi cael ei wahardd o'r grŵp ar ôl cael ei arestio, cyn iddo gael ei ryddhau heb unrhyw gyhuddiad.

Roedd wedi bod yn ceisio mynd â'r arweinydd, Paul Davies, i'r llys, gan honni ei fod wedi torri cyfansoddiad y blaid wrth ei wahardd.

Dywedodd Mr Davies ei fod yn "falch bod hyn wedi dod at ei derfyn".

Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Davies ei bod yn "siom fod y mater wedi gorfod dod i gyfraith"

Dywedodd Mr Ramsay mewn datganiad ddydd Iau: "Rwy'n falch o allu cyhoeddi fod Mr Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, a minnau wedi gallu dod â'r achos cyfreithiol - oedd ei angen er mwyn datrys y broblem o fy ngwaharddiad o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad - i ben."

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at roi'r mater o'r neilltu ac "ailddechrau cydweithio".

Dywedodd Mr Davies: "Mae'n siom fod y mater wedi gorfod dod i gyfraith, ond rwy'n falch bod hyn wedi dod at ei derfyn.

"Mae'n amlwg bod angen adolygu'r prosesau disgyblu o fewn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'w pwrpas yn y dyfodol."