Cynhadledd menywod yn y byd cyhoeddi

  • Cyhoeddwyd
Llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y digwyddiad yn cynnwys menywod dylanwadol o ar draws y byd cyhoeddi

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad yn tynnu sylw at yr "heriau" i fenywod yn y byd cyhoeddi.

Bydd y gynhadledd undydd ar y 15 Chwefror yn cynnwys menywod dylanwadol o'r byd cyhoeddi, megis Helgard Krause, Prif Swyddog Gweithredol y Cyngor Llyfrau, golygyddion gwasg Honno, awduron annibynnol ac entrepreneuriaid cyhoeddi.

Yn ôl un arolwg, mae'r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod mor uchel â 40% mewn rhai cwmnïau.

Bwriad y digwyddiad yw ennyn diddordeb myfyrwyr Prifysgol Bangor a chymuned lenyddol Cymru wrth ystyried dulliau arloesol o sicrhau gyrfa yn y byd cyhoeddi i fenywod.

Er bod cyfleoedd yn bodoli yn y byd cyhoeddi i fenywod, mae'r rhwystrau a'r gwahaniaethu yn aml yn gwrthbwyso'r rhain, meddai trefnwyr y digwyddiad.

Yn ôl arolwg yn 2019 gan Publishers Weekly yn yr Unol Daleithiau, menywod sy'n dal tua 80% o'r swyddi cyhoeddi ond dim ond 52% o'r swyddi rheoli ar hyn o bryd.

Er bod gan y diwydiant cyhoeddi llyfrau yn y DU gyfran debyg o ferched yn y diwydiant, mae'r gyfran mewn swyddi rheoli yn sylweddol is, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 40% mewn rhai cwmnïau.

Dywedodd Heather O'Connell - ymgynghorydd, hyfforddwr a sylfaenydd Bluebird Consulting - sydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyhoeddi: "Mae cyhoeddi yn ddiwydiant gwych gyda llawer o ferched anhygoel, deinamig a disglair."

Ond ychwanegodd: "Dynion sy'n dal y rhan fwyaf o'r swyddi gorau, mae'n anoddach i entrepreneuriaid sy'n ferched gael cyllid ac nid ydym wedi osgoi effeithiau #MeToo.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn sicrhau bod yna gronfa gynyddol ac ysbrydoledig o ferched yn ymuno â'r diwydiant."