Nam technegol yn tarfu ar wefannau GIG Cymru

  • Cyhoeddwyd
gwefanFfynhonnell y llun, GIG Cymru

Mae swyddogion iechyd wedi ymddiheuro ddydd Gwener gan fod lawer o wefannau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol heb fod yn gweithio ers rhai oriau.

Arweiniodd hyd at fod nifer o wasanaethau ddim ar gael, gan gynnwys Fy Iechyd Ar-lein sy'n caniatáu i gleifion wneud apwyntiadau neu archebu presgripsiynau.

Ymhlith y gwasanaethau eraill i ddioddef roedd Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Fe wnaeth Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru - y corff sydd yng ngofal y ddarpariaeth ddigidol, drydar am y broblem ychydig cyn 22:30 nos Iau.

Dywedodd ei fod yn "gweithio'n galed i adfer y gwasanaethau ar bob gwefan cyn gynted â phosib".

Roedd byrddau iechyd Aneurin Bevan, Hywel Dda a Phowys ymysg y rhai a gafodd drafferthion.

Mae'r corff wedi ymddiheuro, gan gynghori cleifion i gysylltu gyda'u meddygon teulu yn uniongyrchol.

Dywedodd y gwasanaeth gwybodaeth mewn datganiad: "Achoswyd y trafferthion gan nam ar y storfa ddata, ac mae peirianwyr yn ceisio'u datrys.

"Mae mynediad i wybodaeth allweddol i gleifion ar wefan Galw Iechyd Cymru ar gael, a heb gael ei effeithio, ond nid yw'r gwasanaeth Fy Iechyd Ar-lein ar gael i rai meddygfeydd meddygon teulu.

"Rydym yn gweithio'n galed i adfer gwasanaethau yn llawn ar bob gwefan cyn gynted â phosib."