Cofio bachgen a foddodd yn Afon Tywi bum mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Cameron Comey
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cameron Comey wedi bod yn chwarae gyda'i frawd ger yr afon pan ddiflannodd

Bydd Neuadd y Sir, Caerfyrddin yn cael ei goleuo yn las ddydd Llun er mwyn nodi pum mlynedd ers diflaniad Cameron Comey a gredir o fod wedi boddi yn Afon Tywi.

Ers diflaniad Cameron, a oedd yn 11 oed ar y pryd ac yn chwarae gyda'i frawd iau, mae pobl leol wedi bod yn ymdrechu i wella diogelwch yn yr ardal, ac mae elusen Partneriaeth Diogelwch Dŵr Sir Gaerfyrddin wedi ei ffurfio.

Eleni mae'r elusen mewn cydweithrediad â Chomisiynydd yr Heddlu, Dafydd Llewelyn, a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi darparu taflenni addysgol dwyieithog am ddiogelwch i bob ysgol uwchradd yn hen sir Dyfed.

Yn ogystal mae adnoddau addysgol wedi cael eu paratoi i athrawon.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cannoedd o bobl i wasanaeth yng Nghaerfyrddin yn fuan wedi diflaniad Cameron Comey

'Mor anodd heddiw â'r diwrnod aeth ar goll'

Dywedodd mam Cameron, Amanda: "Rwy'n credu bod y taflenni yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth am y peryglon i blant o bob oed.

"Os ydyn nhw'n arbed bywydau - yna mae'n beth da.

"Ddylai'r un teulu wynebu yr hyn ry'n ni wedi bod drwyddo am bum mlynedd.

"Mae Cameron yn dal i fod ar goll. Mae hi mor anodd heddiw â'r diwrnod aeth e ar goll."

Bydd goleuo Neuadd y Sir, medd y trefnwyr, yn cofio am Cameron ac eraill sydd wedi boddi yn lleol.