Hallam Amos wedi ei alw i garfan Chwe Gwlad Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hallam AmosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Amos gais ar ei ymddangosiad diwethaf i Gymru, yn erbyn Seland Newydd yng Nghpan Rygbi'r Byd

Mae Hallam Amos wedi ei ychwanegu i garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ni chafodd asgellwr a chefnwr y Gleision - sy'n 25 oed - ei ddewis yn wreiddiol oherwydd anaf i'w bigwrn.

Ond mae'n dychwelyd i'r garfan yn dilyn pryderon am ffitrwydd nifer o olwyr Cymru.

Mae Owen Lane allan o'r bencampwriaeth, ond mae'i gyd-asgellwr, Josh Adams wedi dychwelyd i ymarfer yn dilyn anaf yn y golled i Iwerddon bron wythnos a hanner yn ôl.

Cafodd Dan Biggar anaf i'w ben yn Nulyn hefyd, ac mae Rhys Priestland a Gareth Anscombe eisoes wedi'u hanafu.

Roedd Amos wedi cael ei ystyried fel maswr gan gyn-brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan y llynedd.

Bydd Cymru yn herio Ffrainc yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 16:45.