Perygl i ddinasyddion hŷn a bregus o wledydd yr UE
- Cyhoeddwyd
Mae 'na berygl na fydd gan ddinasyddion hŷn a bregus o wledydd yr Undeb Ewropeaidd y papurau priodol i aros yng Nghymru wedi Brexit, yn ôl elusen.
Mae Mind Casnewydd yn un o'r sefydliadau sy'n helpu pobl i gael "statws preswylydd sefydlog" ar draws y wlad.
Yn ôl eu gweithiwr prosiect Tim Fox, mae'n bosib bod "miloedd" o bobl sydd heb lunio cais eto, gyda phobl fregus mewn perygl o "beidio deall" yr hyn sydd angen ei lenwi.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y cynllun mor syml ag y gallai fod, a bod digon o gymorth wrth law.
Dywedodd Llywodraeth y DU yn gynharach eleni na fydd dinasyddion yr UE yn cael eu gorfodi i adael Prydain yn syth pe baen nhw'n ffaelu cyflwyno cais i aros erbyn y dyddiad cau ym mis Mehefin 2021.
Mae pobl o wledydd yr UE sydd wedi byw yma am o leiaf bum mlynedd yn ddidor yn gymwys am "statws preswylydd sefydlog", gyda'r rheiny sydd yma ers llai o amser yn medru cael "statws cyn-sefydlog".
Mr Fox ydy gweithiwr prosiect Mind Casnewydd yn y gogledd ac mae'n rhedeg sesiynau yn Wrecsam i helpu pobl i wneud cais.
Dywedodd bod y galw am gymorth wedi "cynyddu llwyth" ers dechrau 2020. Ond mae ffigyrau'n dangos bod llawer yng Nghymru dal heb wneud cais, ac mae Mr Fox yn credu bod rhai o'r rheiny'n "eithriadol o fregus".
"Pobl hŷn, pobl sydd mewn cartrefi gofal, pobl ddi-gartref, pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol - dyma'r math o bobl sy'n mynd i gael trafferth gwybod neu ddeall bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais," meddai.
Un sydd wedi cael cymorth gan Mr Fox ydy Agata Iciek, sy'n rhedeg salon lliw haul yn Wrecsam. A hithau'n hunan gyflogedig, mae hi wedi gorfod cyflwyno dogfennau ychwanegol i gefnogi ei chais.
Dywedodd ei bod yn "hyderus" y bydd hi'n llwyddo gyda'i chais, ond mae'n credu bod rhai yn cael trafferth gyda'r broses am nad ydyn nhw siarad Saesneg.
"Dwi'n meddwl 'mod i'n [siarad yn] hyderus am fod gen i fy musnes. Dwi'n sgwrsio lot efo pobl, ond dal, os dwi'n mynd i swyddfa... dwi ychydig yn swil," meddai.
Cymorth ar gael
Mae'r Ganolfan Bwylaidd i Gefnogi Cymhathu yn y dref yn cynnig gwasanaeth cyfieithu i gleientiaid Mr Fox lle bo angen.
Ond mae Brexit wedi creu pryder yn y gymuned, yn ôl y sylfaenydd Anna Buckley.
"Mae lot o deuluoedd wedi gadael y DU yn barod am nad ydyn nhw'n teimlo'n sefydlog," meddai.
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae Cynllun Anheddiad yr UE mor syml ag y gall fod ac wedi rhoi'r statws i fwy na 2.8m o bobl.
"Mae ystod eang o gymorth ar gael ar-lein, dros y ffôn neu yn bersonol i gynorthwyo pobl i wneud cais, ac mae gan ddinasyddion yr UE tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais.
"Dylai unrhyw un sydd angen cymorth i gwblhau eu cais gysylltu â Chanolfan Ddatrys Anheddiad yr UE."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020