Ymchwiliad llofruddiaeth: Arestio dau yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Brierley HillFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tŷ yn nhref Brierley Hill ble cafodd y ddau ddyn eu lladd yn cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ym mhorthladd Caergybi mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ddwy lofruddiaeth yng nghanolbarth Lloegr.

Bu farw Khuzaimah Douglas, 19, a Waseem Ramzan, 36, ddydd Iau wedi i grŵp o ddynion dargedu tŷ yn nhref Brierley Hill oedd yn cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis.

Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn 21 a 23 oed wedi cael eu harestio yng Nghaergybi fore Sadwrn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae dyn 19 oed eisoes wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a chynllwynio i ddwyn.