BBC Ni 'Di Wrecsam: Cysylltwch â'ch straeon
- Cyhoeddwyd
*NODYN PWYSIG*
Pwrpas Ni 'Di Wrecsam ydy gosod y dre a'i phobl wrth galon agenda Newyddion y BBC.
Gyda'r ffocws presennol ar feirws Covid-19, mae BBC News wedi penderfynu gohirio tan gyfnod lle y gall sicrhau bod y sylw golygyddol blaenaf ar Wrecsam.
Bydd y BBC yn treulio pum niwrnod yn edrych ar Wrecsam a'r bobl sy'n byw yno.
Bwriad yr ymgyrch ydy gofyn i bobl Wrecsam am straeon sy'n bwysig iddyn nhw er mwyn eu rhannu gyda chynulleidfa ehangach.
Fe fydd y straeon yn ymddangos ar deledu, radio, gwefannau'r BBC a gwefannau cymdeithasol rhwng 30 Mawrth a 3 Ebrill eleni.
Bydd y straeon yn adlewyrchu pob agwedd o fywyd yr ardal, a bydd nifer yn cael eu cynnwys ar wefan a fydd yn cael ei ddiweddaru gyda straeon am Wrecsam drwy gydol y flwyddyn.
Ac rydyn ni'n chwilio am straeon oddi wrthoch chi! Pa fath o straeon ydych chi am eu darllen, eu gwylio neu glywed amdanyn nhw?
Beth sy'n bwysig i bobl Wrecsam a'r ardaloedd cyfagos? A pha straeon ydych chi'n credu dylai gyrraedd y penawdau?
Sut i gysylltu
Oes gyda chi stori am Wrecsam neu gwestiwn yr hoffech chi ateb iddo? Gallwch gyfrannu eich syniadau drwy gysylltu gyda BBC Cymru ar yr e-bost canlynol: nidiwrecsam@bbc.co.uk