Trafod cynllun i agor felodrom beicio yn Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Ruthun
Disgrifiad o’r llun,

Tir ar gyrion y dref sydd wedi ei glustnodi fel safle posib

Mae trafodaethau'n cael eu cynnal am gynlluniau i adeiladu felodrom yn Sir Ddinbych.

Rhuthun yw'r lleoliad mae Beicio Cymru wedi ei glustnodi ar gyfer trac awyr agored cyntaf y gogledd.

Bydd astudiaeth yn cael ei gomisiynu cyn hir i weld a fyddai'r adnodd yn gynaliadwy.

Ond bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd roi eu hadborth fel rhan o ddigwyddiadau Dyfodol Rhuthun 2020, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Datgan diddordeb

Y llynedd, gofynnodd Beicio Cymru i'r ardaloedd fyddai'n hoffi bod yn gartref i'r felodrom ddatgan eu diddordeb, a Chyngor Tref Rhuthun gafodd eu dewis fel partneriaid.

Cae chwarae yn ardal Glasdir o'r dref - rhwng y clwb criced ac ysgolion newydd Pen Barras a Stryd y Rhos - sydd wedi ei glustnodi fel safle posib.

Yn ôl maer Rhuthun, mae'r dref mewn lleoliad da i ddenu beicwyr o ardal eang.

"Mae ganddon ni boblogaeth fawr o Wrecsam i Sir y Fflint a wedyn ar hyd yr arfordir,"meddai Gavin Harris.

Disgrifiad o’r llun,

Maer Rhuthun, Gavin Harris

"A rhywun o'r Drenewydd neu Aberystwyth - dydyn nhw ddim cweit yn gorfod teithio i'r A55.

"Mae 'na resymau da pam 'dan ni wedi cael ein dewis."

Ar hyn o bryd, mae dau felodrom awyr agored yng Nghymru - yng Nghaerfyrddin ac yn ardal Maendy, Caerdydd - ynghyd ag un dan do yng Nghasnewydd.

'Diffyg adnoddau'

Ond mae diffyg adnoddau yn y gogledd yn "rhwystr sylweddol" i ddatblygu seiclo yn y rhanbarth, yn ôl Beicio Cymru.

Rhybuddiodd y Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, sy'n cynrychioli Rhuthun ar Gyngor Sir Ddinbych, bod angen i'r achos busnes am felodrom fod yn gadarn.

"Mae'n bwysig, unwaith mae'r felodrom yma, ein bod ni'n gallu ei gadw fo a dal i'w ddefnyddio fo," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd felodrom Caerfyrddin ei hailagor wedi buddsoddiad o £600,000 yn 2017

Mae grwpiau beicio wedi cael eu gwahodd i roi eu barn am y felodrom yn Hen Lys Rhuthun ar 27 Chwefror, gyda chyfle i'r gymuned ehangach wneud hynny ar 5 Mawrth.

Mae'r digwyddiadau'n rhan o brosiect Dyfodol Rhuthun 2020, sef cyfres o drafodaethau am sut ddylai'r dref ddatblygu.

Ymhlith y newidiadau diweddar mae trawsnewid yr Hen Lys yn ganolfan amlbwrpas.