Lido yn 'annhebygol o ailagor eleni' wedi Storm Dennis

  • Cyhoeddwyd
Lido PontypriddFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y lido ar gau am y tro tra bod cost ac amserlen y gwaith atgyweirio'n cael eu hasesu

Fe allai lido a gafodd ei atgyweirio am £6.3m lai na phum mlynedd yn ôl orfod aros ar gau am weddill y flwyddyn wedi difrod yn sgil Storm Dennis.

Cafodd lido Pontypridd ei ddinistrio wedi llifogydd ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Yn ôl Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf bydd rhaid pwmpio dŵr o'r ystafell gyfarpar cyn asesu maint y difrod, y gost botensial ac amserlen ailagor.

Mae'n dweud y bydd y parc a'r lido'n parhau ar gau am y tro, ond bod hi'n "ymddangos yn annhebygol" ar hyn o bryd y bydd modd ailagor cyn diwedd eleni.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae cost tebygol atgyweirio'r difrod wedi'r llifogydd yn llawer uwch na'r amcangyfrif gwreiddiol o £250,000

Agorodd y lido yn 1927 ond bu'n rhaid ei gau yn 1991 wedi i'w gyflwr ddirywio.

Yn 2015, fe ail-agorodd wedi gwerth £6.3m o waith atgyweirio.

'Torcalonnus'

Dywedodd AS Llafur Pontypridd, Mick Antoniw wrth Radio Wales bod gweld y safle yn y fath gyflwr wedi'r llifogydd "yn dorcalonnus".

"Yn wreiddiol, roedd yna gred bod modd i'w atgyweirio am £250,000, ond mae'r difrod yn amlwg yn fwy eang," meddai. "Mae'r [llifogydd] wedi mynd i'r holl system bwmpio."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Ystafell beiriannau'r lido dan ddŵr wedi'r llifogydd

Dywedodd fod arian ar gael, ond bod angen cryn amser i wneud y gwaith atgyweirio.

"Bydd [y lido] yn agor cynted â phosib," dywedodd. "Yn anffodus, fe allen ni ei golli haf yma."