Lido Pontypridd: £3m o arian Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Bydd Lido unigryw ym Mhontypridd yn cael ei ailddatblygu wedi cyhoeddiad fod cyllid Ewropeaidd sylweddol ar gael ar gyfer y cynllun.
Mae £3m o arian Ewropeaidd wedi ei glustnodi trwy law Llywodraeth Cymru, daw dros £2m o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi £900,000 a bydd Cadw hefyd yn cyfrannu.
Adeiladwyd y lido yn 1927 mewn arddull celfyddyd a chrefft, ac ar ei anterth roedd yn denu hyd at fil o bobl bob dydd.
Parhaodd yn boblogaidd wedi'r Ail Ryfel Byd, ond dechreuodd ddirywio yn ystod yr wythdegau cynnar ac fe'i caewyd yn 1991.
Aeth y safle a'i ben iddo wedi hynny, a'r bwriad yw ei adnewyddu i greu atyniad gyda thri phwll nofio, caffi, canolfan ymwelwyr a chyfleusterau chwarae.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros raglenni Ewropeaidd, Alun Davies: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi arian Ewropeaidd i gynorthwyo gyda'r gwaith o adfer y safle unigryw hwn, a fydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth a chymdeithasol ar gyfer y gymuned leol a denu ymwelwyr i Bontypridd a thu hwnt, gan ddod â manteision economaidd pellach i'r ardal."
Yn ôl arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Anthony Christopher, mae'r cynllun, ochr yn ochr â chynllun adfywio yng nghanol y dre, a mentrau eraill, yn golygu bod Pontypridd yn elwa o'r buddsoddiad ariannol mwyaf yn ei hanes.
Bydd gwaith cynllunio technegol manwl yn dechrau yn fuan ac mae disgwyl y bydd y lido ar ei newydd wedd yn agor yn ystod haf 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2012