Symud 1,000 o flynyddoedd o hanes sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 1,000 o flynyddoedd o hanes yn cael ei symud i gartref newydd yn ardal sirol Conwy.
Mae archif a chasgliad amgueddfa'r sir yn cael eu trosglwyddo yr wythnos hon o hen ysgol Fictoraidd yn Llandudno i ddaeargell bwrpasol newydd ger tref hynafol Conwy.
Yn ystod y misoedd o baratoi, mae staff wedi gorfod mynd drwy'r casgliadau cyfan, ei asesu ac yn rhoi cod bar arno fel bod modd dod o hyd iddo yn ystod y symud.
Mae unrhyw eitemau sydd wedi'u difrodi hefyd wedi cael eu gyrru i'w hadnewyddu neu'u trwsio cyn i gontractwyr arbenigol eu symud pum milltir i'w cartre' newydd.
Dywedodd Susan Ellis o Wasanaeth Archif Conwy: "Fe wnaethon ni archwilio 100% o'r casgliad, gan agor bob bocs. Fe fyddwn ni ar bigau'r drain wrth gyrraedd y pen arall wrth i ni geisio sicrhau ein bod ni'n gallu dod o hyd i bopeth.
"Mae'r cofnodion cynharaf yn siartrau canoloesol... mae tri ohonyn nhw gyda'r cynharaf o'r 14eg ganrif. Mae gennym rhai o'r cofnodion plwy' hynaf yng Nghymru, gan gynnwys un o 1541 sydd yr hynaf yng Nghymru gyfan."
'Dogfennau bregus'
Mae symud yr archif yn rhan o gynllun gwerth £3.7m i adeiladu canolfan ddiwylliant, sydd hefyd yn cynnwys symud llyfrgell Conwy o'i hen gartref i'r ganolfan newydd.
Bydd daeargell yr archif o dan ddaear islaw Canolfan Ddiwylliant Conwy. Mae'r lleoliad yna'n galluogi staff i sicrhau bod modd rheoli'r tymheredd a lleithder er mwyn gwarchod y dogfennau sy'n cael eu storio yno.
Dywedodd Kate Hallett, un o'r archifwyr: "Ry'n ni'n delio gyda rhai dogfennau bregus iawn yma, felly rydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwarchod yn y modd gorau posib i'r dyfodol.
"Rydych chi'n cael synnwyr go iawn o hanes wrth gerdded drwy'r fan hyn. Mae pob dogfen, pob llun yn dweud stori'r bobl fu'n byw yn yr ardal yn y gorffennol.
"Fy hoff ddogfen yw'r cofnod sesiwn - cofnodion llys Fictoraidd yn y bôn - sydd â straeon o'r diffynyddion, y dioddefwyr a'r tystion. Maen nhw i gyd yn ddarnau bach iawn o hanes teulu rhywun."
Bydd archif sirol newydd Conwy yn agor ar gyfer ymchwil yn y gwanwyn.