Beirniadu cyflwynydd BBC am gyflwyno noson Geidwadol

  • Cyhoeddwyd
Wynne Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wynne Evans wedi bod yn gyflwynydd cyson ar BBC Radio Wales ers 2012

Mae'r cyflwynydd radio Wynne Evans wedi cael ei feirniadu ar ôl i luniau ohono ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol mewn noson godi arian ar ran y Blaid Geidwadol.

Cafodd Mr Evans, sydd hefyd yn ganwr opera ac wyneb cyfarwydd ar hysbysebion cwmni yswiriant, ei weld yn helpu i gynnal ocsiwn ar y noson.

Dywedodd yr AS Llafur, Chris Bryant y dylai'r cyflwynydd ymddiswyddo os nad yw'n gallu cadw ei farn wleidyddol i'w hun.

Mae'r BBC wedi cadarnhau nad oedden nhw'n ymwybodol o rôl Mr Evans o flaen llaw.

Dywedodd llefarydd ei fod wedi cytuno yn y dyfodol i beidio derbyn "archebion ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol".

'Wedi trafod y mater'

Mae Wynne Evans yn cyflwyno rhaglen adloniant ysgafn boreol ar BBC Radio Wales, yn ogystal â'i swyddi canu a masnachol eraill.

Mae gan y gorfforaeth ganllawiau yn trafod unrhyw wrthdaro buddiannau sy'n codi o weithredoedd allanol.

Yn eu plith mae rhybudd ynglŷn â'r "risg o godi amheuon ynghylch didueddrwydd y BBC" drwy'r gweithgareddau hynny.

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol cafodd ei weld yn rhannu llwyfan gyda'r prif weinidog Boris Johnson yn ystod noson godi arian i'r Ceidwadwyr yn Llundain nos Fawrth.

Cafodd ei weld yn dysgu geiriau un o ganeuon Max Boyce i Mr Johnson, ac yn ôl adroddiadau fe wnaeth hefyd gyflwyno'r ocsiwn godi arian.

Ffynhonnell y llun, Ian Forsyth/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wynne Evans yn ganwr opera ac hefyd yn wyneb adnabyddus ar hysbysebion cwmni yswiriant

"Mae'n syml iawn, mae e'n cael ei dalu gan y ffi drwydded, darlledwr gwasanaethau cyhoeddus," meddai Mr Bryant.

"Dylai gadw ei ddaliadau gwleidyddol i'w hun, fel arall dylai gael y sac neu ymddiswyddo.

"Mae'n gyflwynydd rheolaidd ar raglen BBC Cymru - mae'n sylfaenol."

Dywedodd y BBC eu bod bellach wedi siarad gyda Mr Evans yn dilyn ei ymddangosiad.

"Rydyn ni wedi trafod y mater gydag Wynne ers dod i wybod am y digwyddiad, ac mae wedi bod yn glir na fydd yn derbyn archebion ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol," meddai llefarydd.