Cofio sefydlydd Folly Farm a sŵ Penfro, Glyndŵr Williams

  • Cyhoeddwyd
Glyndŵr WilliamsFfynhonnell y llun, Folly Farm
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Glyndŵr Williams agor ei fferm deuluol fel atyniad twristiadd yn 1988

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r gŵr a sefydlodd sŵ Penfro a pharc antur Folly Farm yn Sir Benfro.

Fe gyhoeddodd swyddogion Folly Farm ar eu tudalen Facebook fod Glyndŵr Williams wedi marw yn dilyn cyfnod o salwch.

Agorodd Mr Williams a'i wraig Anne y fferm ym Megeli i'r gogledd o Ddinbych-y-pysgod fel atyniad twristaidd yn 1988.

Mae'r atyniad bellach yn denu 500,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Fe symudodd Mr Williams i'r fferm yn blentyn dwy oed gyda'i rieni yn 1946.

Wyth mlynedd wedi agor yr atyniad fe gyrhaeddodd y reid ffair gyntaf y safle ac yn 2002 cafodd anifeiliaid sŵ eu cludo i'r fferm.

Mewn teyrnged dywedodd llefarydd ar ran y parc: "Roedd e'n mwynhau treulio amser gyda'i deulu, ffrindiau a chydweithwyr a bydd colled fawr ar ei ôl."

Dywed y parc fod yr atyniad ar agor fel arfer gan mai "dyna fyddai dymuniad Glyn".