Ffrae iaith am ysgol Gymraeg newydd yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd sir wedi galw am ymchwiliad i sylwadau dadleuol gan athro yn ystod ymgynghoriad ar ddatblygu addysg Gymraeg yn ardal Penfro.
Mae'r sylw dienw, gafodd ei gynnwys mewn dogfen ymgynghorol [yn Saesneg], dolen allanol, yn ymosod ar gynlluniau i agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yn yr ardal.
Cafodd cynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd ym Mhenfro sêl bendith cynghorwyr sir brynhawn ddydd Iau ar ôl trafodaeth danllyd.
Mae'r sylw yn dweud bod rhieni yn ardal Dinbych-y-pysgod yn dewis addysg Gymraeg er mwyn "osgoi Ysgol Greenhill" ac fe gymharwyd y sefyllfa i "apartheid addysgol".
'Deinosoriaid'
Cafodd y sylwadau eu disgrifio fel rhai "amhroffesiynol ac anaddas" gan y Cynghorydd Paul Rapi, ac fe ddywedodd bod y gymhariaeth i apartheid yn "sarhaus ac yn anghywir".
Galwodd Mr Rapi ar y Cyfarwyddwr Addysg Dros Dro, Steven Richards-Downes, i gymryd y "camau priodol".
Cefnogwyd ei sylwadau gan y cynghorydd Mike Williams o Ddinbych-y-pysgod, wnaeth ddweud bod y sylwadau gan "unigolyn ym myd addysg" yn "anaddas ac yn warthus".
Wrth alw am ymchwiliad i'r sylwadau, ychwanegodd Mr Williams bod y drafodaeth yn profi "nad yw deinosoriaid wedi diflannu eto".
Wrth ymateb i'r drafodaeth, fe ddywedodd y cynghorydd Jacob Williams y dylai pobl gael yr hawl i "gynnig eu sylwadau... hyd yn oed os nag yw'n nhw'n plesio" a taw "llwybr llithrig" fyddai erlyn pobl am y sylwadau.
Fe wnaeth y Cynghorydd Aaron Carey gyfeirio at y cynlluniau i ariannu ysgolion Cymraeg newydd fel "prosiect vanity Llywodraeth Cymru".
Mae darpariaeth dwy ffrwd ar hyn o bryd yn Ysgol Gelli Aur ond mae cynlluniau ar droed bellach i agor ysgol gynradd gwbl Gymraeg.
Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud ei bod nhw'n "edrych ar y sefyllfa" ar ôl y ffrae.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020