A55: Disgwyl tagfeydd wrth i waith ddechrau
- Cyhoeddwyd
Oherwydd cyflwr y ffordd, mae'n rhaid gwneud gwaith ar ran o'r A55 yn Sir y Fflint fydd yn golygu cau lonydd ar adegau dros y pedair wythnos nesaf.
Mae'n rhaid rhoi wyneb newydd ar y ffordd rhwng cyffordd 36 (Warren) a chyffordd 34 (Ewlo).
Fe fydd mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud gyda'r nos ac ar benwythnosau er mwyn tarfu cyn lleied â phosib, ond pan fydd y gwaith yn digwydd fe fydd un lon i'r gorllewin wedi cau yn ystod yr wythnos hefyd.
Mae'r gwaith wedi ei drefnu i ddechrau ar 29 Chwefror a bydd y rhaglen yn parhau am bedair wythnos, gan ddibynnu ar y tywydd, ond fe fydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau cyn yr amserlen os bydd hynny'n bosibl.
Bydd y gwaith yn golygu pedwar penwythnos o weithio pob diwrnod, ddydd a nos, gyda'r A55 wedi cau i'r gorllewin rhwng y ddwy gyffordd gan drefnu dargyfeirio traffig.
Yn ystod yr wythnos, bydd yr A55 i'r gorllewin wedi cau dros nos gyda gwyriadau. Mae cau y ffordd tua'r gorllewin yn golygu y bydd modd cynnal y gwaith ar y ddwy lȏn ar yr un pryd, gan leihau yr amser sydd ei angen i gwblhau'r gwaith.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates: "Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud i gynnal a gwella cyflwr yr A55.
"Os na fyddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud, byddai rhagor a rhagor o achosion di-rybudd o gau ffyrdd, a fyddai'n tarfu llawer mwy na'r gwaith sydd wedi'i gynllunio. Mae'n hanfodol bod y ffordd yn cael ei chynnal a bod wyneb newydd yn cael ei osod er diogelwch y cyhoedd.
"Hoffwn annog y cyhoedd i ddilyn yr arwyddion ar yr A55 tra bod y gwaith hwn yn digwydd, ac rwy'n diolch iddynt ac i breswylwyr lleol am eu cydweithrediad a'u hamynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2019