Storm Dennis: Tywydd garw'n taro Cymru ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd

Tonnau'n taro traeth Criccieth
Mae Storm Dennis wedi cyrraedd Cymru brynhawn dydd Sadwrn, gyda gwynt cryf a glaw yn taro rhannau helaeth o'r wlad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ar draws Cymru, dolen allanol ac mae disgwyl i nifer o rybuddion barhau dros y penwythnos.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaeth Traffig Cymru wedi rhybuddio pobl rhag teithio ar y ffyrdd, dolen allanol gan fod yr amodau gyrru mor wael.

Map rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Wythnos wedi anhrefn Storm Ciara, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi tri rhybudd sy'n berthnasol i Gymru, gyda'r cyntaf - am wyntoedd cryfion - wedi dod i rym am 12:00 ddydd Sadwrn.
Cyngor i deithwyr
Mae'r rheilffordd rhwng Pontypwl a'r Fenni ar gau o achos llifogydd ac fe all hyn achosi oedi i deithwyr am gyfnod, ac mae Pont Cleddau ar gau o achos y gwynt yn Sir Benfro.
Ar ffordd yr A55 mae llifogydd wedi achosi oedi yn Llaneurgain, ac mae rhan o ffordd yr M48 dros Bont Hafren ar gau i gyfeiriad y dwyrain am Loegr gyda cherbydau yn cael eu harallgyfeirio.
Mae cyfyngiadau cyflymder ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a Môn mewn grym o achos y gwynt.

Gardd gefn dan ddŵr yng Nghwmbach, Rhondda Cynon Taf, brynhawn Sadwrn
Gohirio digwyddiadau
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu canslo neu eu gohirio, gan gynnwys gêm gartref y Dreigiau yn erbyn Benetton nos Sadwrn yng nghystadleuaeth y Pro14, a'r gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Torquay United yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.
Mae holl gemau pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru wedi eu gohirio hefyd o achos y tywydd.

Bu'n rhaid cau rhan o'r eisteddle ym Mharc y Sgarlets am fod gwynt yn hyrddio'r glaw tuag ato, gan adael amodau llithrig dan draed
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi tri rhybudd tywydd:
Rhybudd oren am law rhwng 12:00 dydd Sadwrn a 15:00 dydd Sul mewn 16 sir - Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam;
Rhybudd melyn am law sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru rhwng 12:00 dydd Sadwrn a 21:00 nos Sul;
Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion sy'n berthnasol i Gymru gyfan rhwng 10:00 dydd Sadwrn a 12:00 ddydd Sul. Mae'r rhybudd yma bellach wedi ei ymestyn i ddydd Llun ar gyfer siroedd Ynys Môn, Ceredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys.

Coeden wedi disgyn yn y gwynt yn Rhosfawr ger Pwllheli
Mae'r arbenigwyr yn darogan llifogydd gyda'r potensial i beryglu bywyd yn ardaloedd y rhybudd oren.
Yn ogystal â difrod posib i gartrefi a busnesau fe allai ffyrdd orfod cau gan ynysu rhai cymunedau.
Mae'r gwyntoedd cryfaf yn fwyaf tebygol brynhawn Sadwrn ac yn gynnar gyda'r nos, ac eto yn gynnar fore Sul - rhwng 60 a 70mya at hyd yr arfordir, yn enwedig yn y gorllewin a'r de, a hyd at 50mya mewn ardaloedd mewndirol.
Mae toriadau cyflenwadau trydan yn debygol.

Dŵr yn gorlifo o ddraen ger tai ym mhentref Cwmbach yn Rhondda Cynon Taf
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail y bydd yna gyfyngiadau cyflymder ar draws y rhwydwaith ddydd Sadwrn.
"Diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth," meddai'r datganiad.
"Byddwn yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cwsmeriaid yn mynd yn eu blaenau, ond mae newidiadau'n debygol ar fyr rybudd ddydd Sadwrn a dydd Sul."
Mae'r cwmnïau'n annog teithwyr i edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf ar-lein cyn dechrau pob siwrne.
Mae gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle trenau rhwng Machynlleth a Phwllheli, Machynlleth ac Aberystwyth, a rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn sgil niwed i'r cledrau ar ran o Lein Cambria wedi Storm Ciara.
Bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, Sir Gâr ar gau ddydd Sadwrn er mwyn diogelu ymwelwyr a staff.

Dŵr yr afon yn Aberhonddu ddydd Sadwrn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2020