Jay Harris yn methu dod yn bencampwr pwysau-pry'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r bocsiwr Jay Harris wedi methu yn ei ymgais i ddod yn bencampwr pwysau-pry'r byd er gwaethaf perfformiad dewr yn erbyn Julio Cesar Martinez yn Frisco, Texas.
Fe gollodd yr ornest ar bwyntiau - 118-109, 116-111 a 115-112 - yn erbyn y gŵr o Fecsico.
Cafodd y bocsiwr 29 oed o ardal Townhill Abertawe ei daro i'r llawr yn y 10fed rownd ond fe gododd a dal ati i ymladd tan y gloch olaf.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Harris, sy'n parhau i weithio yn warws Amazon yn Abertawe, wedi colli ei record ddiguro ers troi'n broffesiynol yn 2013.
Dywedodd wedi'r ornest ei fod yn "siomedig iawn, iawn" ond ei fod wedi dysgu llawer o wersi o'r ornest.
"Rwy'n meddwl bod 115-112 yn eitha' cywir, ro'n i'n meddwl falle 'mod i wedi dod yn gyfartal ar y funud olaf, ond fel y gwelodd pawb, fe rois i 100%.
"Roedd y dorf yn bwio wrth i mi gyrraedd ond roedd yn swnio fel bod gen i lond stadiwm o gefnogwyr wrth i mi adael. Gwnes i ddangos iddyn nhw 'mod i'n focsiwr lefel pencampwr byd."
Yn ei gyfweliad yntau wedi'r ornest, dywedodd Martinez mai'r Cymro oedd ei wrthwynebydd caletaf hyd yn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020