Gwrthdrawiad ffordd maes awyr: Cerddwr 19 oed yn marw

  • Cyhoeddwyd
Ffordd ger safle'r gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau'r prif ffordd i Faes Awyr Caerdydd am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad

Mae dyn 19 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar ffordd sy'n arwain at Faes Awyr Caerdydd.

Dywed Heddlu De Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 02:30 bore Sadwrn ar yr A4226 yn Y Barri, ym Mro Morgannwg.

Mae ditectifs yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd Citroen C1 glas neu ddau gerddwr yn yr ardal rhwng 02:00 a 02:30.

Mae teulu'r dyn yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am rai oriau wrth i'r llu ymchwilio i'r achos.

Y cyfeirnod ar gyfer pobl sydd â gwybodaeth neu luniau dash cam i'w gynnig i'r ymchwiliad yw 2000074049.