'Ni ddylai pobl orfod talu i wylio gemau Chwe Gwlad'

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones yn dal y tlws wedi i Gymru gipio'r bencampwriaeth yn 2019Ffynhonnell y llun, AFP

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn "rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru" ac mae angen iddo fod ar gael am ddim i wylwyr, medd arweinydd Plaid Cymru.

Daw sylwadau Adam Price yn dilyn adroddiadau papur newydd y gallai'r BBC ac ITV golli hawliau darlledu'r gystadleuaeth pan ddaw'r cytundeb presennol i ben yn 2020-21.

Yn ôl yr adroddiadau hynny, does dim modd i fwy nag un darlledwr geisio am yr hawliau ar y cyd, fel y digwyddodd yn 2015 pan enillodd y BBC ac ITV y cytundeb i ddarlledu gemau o 2016 ymlaen.

Mae Adam Price wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gofyn iddo ychwanegu pencampwriaeth y Chwe Gwlad at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon y dylid eu darlledu ar y teledu yn ddi-dâl.

"Mae'r Chwe Gwlad a'r gêm ei hun yn rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru.

"Mae'n eironig ein bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ac yn ymhyfrydu yn y pethau bychain sy'n ein gwneud yn Gymry pan yn canfod efallai y bydd yn rhai i ni dalu am ein diwylliant ni'n hunain," meddai.

'Rygbi Cymru ddim ar werth'

Mae Deddf Ddarlledu 1996 yn gorchymyn bod cyfres o ddigwyddiadau chwaraeon "Grŵp A" yn aros ar deledu di-dâl - yn eu plith mae gêm derfynol Cwpan yr FA, ras y Grand National a'r gemau Olympaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar ac eraill yn serennu yn ystod y bencampwriaeth gan ddenu miloedd o wylwyr ar draws Cymru

Mae Mr Price wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol Oliver Dowden i ychwanegu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad at y rhestr.

"Mae'n rhaid i hyn fod yn berthnasol i bob gêm rygbi oherwydd rhan rygbi yn ein diwylliant cenedlaethol.

"Ry'n ni'n credu'n gryf nad yw rygbi Cymru ar werth a'i fod yn perthyn i Gymru," ychwanegodd Mr Price.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Adam Price

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Adam Price

Dywedodd hefyd bod 82% o gynulleidfa teledu yn gwylio gemau'r Chwe Gwlad ar ddiwrnod y gemau.

"Byddai talu amdanynt yn ganlyniad ofnadwy i Gymru - dyw nifer yng Nghymru ddim yn gallu fforddio teledu lloeren a dyw gwylio'r gêm mewn tafarn ddim yn gyfleus i bawb."

Mae nifer o wleidyddion Llafur Cymru ynghyd â Phlaid Cymru wedi anfon llythyron at Undeb Rygbi Cymru yn mynegi eu pryderon ac yn gofyn i'r Undeb wrthsefyll unrhyw gynlluniau lle mae'n rhaid talu i weld y gemau.

Nos Sul dywedodd llefarydd ar ran Adran Ddiwylliant San Steffan: "Mae'n dull o restru digwyddiadau yn rhoi cydbwysedd rhwng darlledu digwyddiadau chwaraeon am ddim i'r cyhoedd tra'n rhoi'r hawl i berchnogion hawliau drafod cytundebau er budd chwaraeon.

"Mae trafodaethau ar hawliau teledu yn fater i awdurdodau a darlledwyr chwaraeon."

Mae cais wedi cael ei wneud i'r BBC am ymateb.