Camau i leihau effaith sŵn awyrennau'r Awyrlu

  • Cyhoeddwyd
Beechcraft T-6C TexanFfynhonnell y llun, Textron Aviation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awyrennau Texan T1 yn cael eu defnyddio i hyfforddi peilotiaid yn RAF Fali

Mae'r Awyrlu Brenhinol wedi cadarnhau y bydd camau'n cael eu cymryd i liniaru effaith y sŵn sy'n dod o awyrennau sy'n hyfforddi uwchben rhannau o Wynedd a Môn yn dilyn cwynion.

Cafodd yr awyrennau Texan T1 eu defnyddio gan beilotiaid yr Awyrlu yn yr ardal am y tro cyntaf y llynedd, ac ers hynny mae eu sŵn wedi achosi nifer o gwynion.

Mewn datganiad dywedodd yr Awyrlu y bydd defnydd yr awyrennau yn cael ei wasgaru i ardal ehangach dros y tir a'r môr unwaith y bydd y llu'n fodlon fod yr hyfforddiant yn bwrpasol.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r Awyrlu yn y broses o foderneiddio'r system hyfforddi hedfan milwrol, gyda holl hyfforddiant hedfan awyrennau cyflym i beilotiaid yn symud i'r Fali.

"Mae'r broses yma yn cynnwys cyflwyno awyrennau, hyfforddwyr a maes llafur newydd, sy'n cael eu datblygu yn y gofod awyr gerllaw'r Fali.

"Unwaith y byddwn yn fodlon fod yr hyfforddiant yn bwrpasol, bydd llai o ddibyniaeth ar yr ardaloedd sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac fe fydd hediadau'n cael eu gwasgaru dros ardaloedd ehangach dros dir a môr."

Cwynion

Un sydd wedi bod yn pwyso ar yr Awyrlu i wneud gwelliannau er mwyn lleihau'r sŵn ydy'r aelod seneddol lleol Liz Saville Roberts o Blaid Cymru.

Dywedodd: "Mae etholwyr sy'n byw'n uniongyrchol o dan ardal hyfforddi'r awyren Texan wedi bod yn cysylltu â mi ers i'r awyrennau newydd gyrraedd yr hydref y llynedd, gydag awyrennau'n hedfan yn sylweddol is nag arfer ac yn cynhyrchu sŵn uchel.

"Cwynodd y rhai a oedd yn byw rhwng Cricieth a Pwllheli am or-hedfan afresymol a chyson, o ben bore i hwyr yn nos. Gwaethygwyd hyn gan ddiffyg ymateb gan y Weinyddiaeth Amddiffyn pan geisiodd pobl leol gael atebion.

"Er fy mod yn llwyr werthfawrogi bod hedfan awyrennau Texan yn agwedd annatod o raglen hyfforddi'r RAF, rwyf wedi annog y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r RAF dro ar ôl tro i wneud popeth o fewn eu gallu i liniaru'r effaith ar drigolion lleol."

Cyfarfod

Ychwanegodd yr aelod seneddol: "Ar ôl cyfarfod â'r RAF yn San Steffan, fe'm hanogir fod camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i osod yr offer angenrheidiol ar yr awyren Texan i ganiatáu hedfan dros y môr, a thrwy hynny, leihau'r effaith ar ardaloedd poblog.

"Er bod ymarferion hyfforddi yn anochel yn arwain at aflonyddwch, mae'n bwysig bod y gweithrediadau hyn yn ymwybodol o'r effaith ar gymunedau lleol, a bod faint o hedfan isel a gynhelir yn gyfyngedig i ofynion gweithredol a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i roi gwybodaeth i bobl."