Cyhoeddi enw cerddwr fu farw yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ffordd ger safle'r gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y prif ffordd i Faes Awyr Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw cerddwr ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Mro Morgannwg dros y penwythnos.

Roedd Mason Richardson yn 19 oed ac o bentref Trebefered, ger Llanilltud Fawr.

Bu farw wedi digwyddiad tua 02:30 fore Sadwrn ar yr A4226 yn Y Barri, sef y ffordd sy'n arwain at Faes Awyr Caerdydd.

Dywedodd teulu Mr Richardson ei fod yn fab a chyfaill "yr oedd llawer yn ei garu a'i hoffi, sy'n amlwg o nifer y negeseuon sydd wedi eu gyrru".

Yn ôl eu teyrnged, fe roedd yn gymeriad poblogaidd yn ardal Llanilltud Fawr a "bydd yn cael ei golli'r fawr gan ei rieni serchus a'i gyfeillion".

Gorffenna'r datganiad: "Cwsg mewn hedd, Mason."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth neu luniau all helpu'r ymchwiliad i'r achos.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un allai fod wedi gweld Citroen C1 glas neu ddau gerddwr yn ardal y gwrthdrawiad hwng 02:00 a 02:30 fore Sadwrn, 29 Chwefror.