Banc digidol Starling i greu 400 o swyddi yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae gan Starling 1.3 miliwn o gyfrifon
Mae banc digidol Starling wedi cyhoeddi y bydd yn creu 400 o swyddi newydd yng nghanol Caerdydd.
Dywedodd y bydd yr holl swyddi - ym meysydd gwyddoniaeth data, twyll a gwasanaethau cwsmeriaid - eleni, gyda'r gobaith o gyflogi mwy yn y dyfodol.
Cafodd y banc ei sefydlu gan Anne Boden, o Abertawe, yn 2014 ar ôl gyrfa lwyddiannus gyda banciau'r stryd fawr.
Ers hynny mae Starling wedi tyfu i gyflogi 800 o staff yn Llundain a Southampton.

Cafodd y banc ei sefydlu gan Anne Boden o Abertawe yn 2014
Bydd y banc, sydd â 1.3 miliwn o gyfrifon, yn symud i swyddfeydd yn Brunel House ger gorsaf drenau Heol y Frenhines.
Dywedodd y banc nad yw wedi derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y buddsoddiad.