Canfod corff dyn 32 oed mewn adeilad yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
corff mewn ty yng Nghaernarfon

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud bod corff dyn wedi ei ganfod mewn tŷ yng Nghaernarfon.

Fe gafodd swyddogion eu galw am 07:32 fore Iau i'r tŷ ar yr A487 drwy ganol y dref.

Yno fe ddaethon nhw o hyd i gorff dyn 32 oed.

Dywedodd y llu fod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un "anesboniadwy", ac nad oedd ganddyn nhw ragor o wybodaeth i'w ychwanegu ar hyn o bryd.