Cynllun yn rhoi cyfle i ffoaduriaid ddysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dysgwyr Cymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Ffoaduriaid yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg yng Nghasnewydd

Fe fydd hyd at 300 o ffoaduriaid yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg am ddim yn ôl partneriaeth newydd sydd wedi ei sefydlu rhwng cwmni preifat a sefydliadau gwirfoddol.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith, un o'r partneriaid, y bydd y gwersi peilot yn para am flwyddyn er "mwyn profi effeithiolrwydd y cynllun".

Yn ôl Andrea Cleaver, prif weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, bydd y cynllun "yn galluogi mwy o geiswyr lloches a ffoaduriaid i gael dechreuad gwell yng Nghymru, o ran eu cynnwys yn gymdeithasol ac o ran cyflogadwyedd".

Cwmni SaySomethinginWelsh fydd yn darparu'r gwersi ar-lein, gyda chefnogaeth Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith dyw'r gwersi ddim yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gan gyfeirio at "haelioni ar ran SaySomethingWelsh sy'n darparu'r cyrsiau am ddim, gyda'r cyrff eraill yn ysgwyddo'r gost neu ddarparu'r adnoddau gweinyddol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "annog pawb sy'n gwneud Cymru yn gartref iddynt ddysgu Cymraeg"

Dywedodd Joseph Gnagbo, swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith: "Ar hyn o bryd, mae gwersi Saesneg am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru, ond mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan yn gwrthod darparu gwersi Cymraeg yn yr un modd.

"Mae'n rhaid i'r polisi yna newid os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gadw at addewid i wneud Cymru yn genedl noddfa go iawn.

"Wedi'r cwbl, nid oes hawl gan geiswyr lloches i weithio, felly sut maen nhw i fod i fforddio gwersi Cymraeg fel arall?"

Disgrifiad,

Yn 2019 bu Joseff Gnagbo yn rhannu ei brofiad o ddysgu Cymraeg ers dod i Gymru fel ffoadur o Affrica

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ffoaduriaid pob cyfle i ddysgu Cymraeg, fel y nodwyd yn ein cynllun Cenedl Noddfa am ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

"Trwy weithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae cefnogaeth ar gael i ddysgwyr o bob cefndir i ddysgu Cymraeg - ac mae'r ganolfan yn darparu cyrsiau am ddim i geiswyr lloches.

"Rydym yn cefnogi arloesi fel sy'n digwydd drwy'r bartneriaeth hon i archwilio pob posibilrwydd i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddysgu'r iaith o'u ddewis."

Yn ôl Deborah McCarney o SaySomethinginWelsh bydd dysgu iaith yn rhoi cyfle i "bobl sydd wedi dod o sefyllfaoedd mor anodd na allwn ni ddychmygu i ymuno â'n cymuned a chymryd rhan ym mhob agwedd ar ein diwylliant".