Y Ceidwadwyr Cymreig am ddileu 'pot mêl y Cynulliad'

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi addo "dod â phot mêl y Cynulliad i ben" os fydd ei blaid yn cipio grym yn etholiad nesaf y Cynulliad.

Dywedodd Paul Davies wrth gynhadledd y blaid y byddai hefyd yn haneru nifer y gweinidogion yng Nghymru i saith.

Fe wnaeth hefyd addo rhewi recriwtio gweision sifil, ac ni fydd yn cynyddu cyllideb y corff sy'n gyfrifol am redeg y Cynulliad.

"Ni fyddwn yn dileu'r Cynulliad, ond mae angen i ni wrando mwy ar y rhai sydd am wneud hynny," meddai.

'Rhyddhau potensial Cymru'

Ychwanegodd Mr Davies yn ei araith fore Gwener na fyddai unrhyw drethi newydd yn cael eu creu gan Lywodraeth Cymru wedi'i arwain gan y Ceidwadwyr.

"Rydyn ni angen arweinyddiaeth feiddgar yn Llundain a Bae Caerdydd er mwyn i Gymru symud ymlaen," meddai.

"Gyda mi fel Prif Weinidog Cymru a Boris [Johnson] fel Prif Weinidog y DU byddwn yn cyflawni dros Gymru.

"Bydd gennych chi lywodraeth sy'n gwobrwyo eich gwaith caled, sy'n cyflawni agenda flaengar, sy'n gadael yr un unigolyn na chymuned ar ôl - oherwydd gyda'n gilydd, gallwn ryddhau potensial Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Boris Johnson bod y Ceidwadwyr yn cynrychioli cymunedau difreintiedig, yn ogystal ag ardaloedd cyfoethocach

Dywedodd mai Llafur, nid datganoli, sydd wedi methu, gan ychwanegu bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu arian ar Faes Awyr Caerdydd, stiwdio Pinewood a phrosiect Cylchffordd Cymru.

Ychwanegodd y byddai llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn gwella'r A55, adeiladu ffordd liniaru'r M4 a dyblu'r buddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson annerch y gynhadledd brynhawn Gwener, gan annog y Ceidwadwyr Cymreig i adeiladu ar eu llwyddiant yn yr etholiad cyffredinol yn etholiad y Cynulliad yn 2021.

Dywedodd wrth y dorf yn Llangollen bod y Ceidwadwyr yn cynrychioli cymunedau difreintiedig, yn ogystal ag ardaloedd cyfoethocach.

"Rydyn ni nawr yn falch o gynrychioli pobl sydd o deuluoedd sydd heb bleidleisio dros y Ceidwadwyr ers cenedlaethau," meddai.

"Fe fyddwn ni yn eu cynrychioli'n dda, ac yn ad-dalu eu hyder ynom ni."

'Y Torïaid ydy'r pot mêl'

Wrth annerch y gynhadledd yn ddiweddarach, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart fod gan gan Mr Davies "siawns realistig" o ddod yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn yr etholiad Cymulliad nesaf.

"Mae Mark Drakeford fel Jeremy Corbym heb garisma," meddai. "Mae gennym ni ddewis amgen gwych ac allwn ni ddim anghofio hynny."

Ond dywedodd AC Plaid Cymru, Delyth Jewell fod araith Mr Davies yn "hollol ragrithiol", a bod eu haddewidion yn mynd yn erbyn record y blaid.

"Dan y Torïaid yn San Steffan mae'r gwasanaeth sifil wedi cynyddu'n sylweddol, ac yn y Senedd mae'r Torïaid yn cyflogi mwy o aelodau o'u teuluoedd nac unrhyw blaid arall," meddai.

"Dydyn nhw ddim eisiau dod â'r pot mêl i ben. Nhw ydy'r pot mêl."

Trafferthion

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymgynnull am eu cynhadledd wanwyn yn dilyn llwyddiant etholiadol, ond hefyd yn wynebu trafferthion yn ymwneud â rhai o'u haelodau.

Enillodd y blaid chwe sedd oddi wrth y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr, gan eu gadael gyda 14 Aelod Seneddol - eu canlyniad gorau er 1983.

Ond cyn diwrnod y pleidleisio fe wnaeth Alun Cairns ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru wedi honiadau ei fod yn gwybod bod cyn-gydweithiwr wedi'i gyhuddo o ddymchwel achos treisio yn fwriadol.

Fe wnaeth Aelod Cynulliad Mynwy, Nick Ramsay lwyddo gyda her gyfreithiol yn erbyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am ei wahardd o grŵp y blaid yn y Senedd.

Cafodd Mr Ramsay ei wahardd o'r blaid a'r grŵp wedi iddo gael ei arestio ar Ddydd Calan cyn cael ei rhyddhau yn ddigyhuddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Ceidwadwyr eu canlyniad etholiadol gorau yng Nghymru er 1983 yn etholiad mis Rhagfyr

Dychwelodd i'r grŵp fis diwethaf, ond mae'n parhau i fod dan waharddiad o'r Blaid Geidwadol ac wedi dweud ei fod yn ystyried camau cyfreithiol pellach.

Cafwyd Mr Cairns yn ddieuog o dorri'r cod gweinidogol, ond dywedodd ymchwiliad ei bod yn "annhebygol" nad oedd yn gwybod am rôl Ross England yn yr achos treisio.

Canfu'r ymchwiliad fod y rhai oedd ynghlwm â'r mater ddim wedi dweud wrth Mr Cairns am rôl Mr England, ac nad oedd "tystiolaeth uniongyrchol" i wrth-ddweud hynny.

Mae Mr Cairns yn mynnu nad oedd yn gwybod manylion yr achos llys.

Mae hefyd nifer o honiadau wedi eu gwneud am faterion busnes AS newydd Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis, sydd i fod i annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Fay Jones, Virginia Crosbie a Sarah Atherton yw ASau benywaidd cyntaf y Ceidwadwyr yng Nghymru erioed

Er hyn i gyd mae'n debyg y bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar fuddugoliaethau etholiadol y blaid, gan gynnwys ethol ASau benywaidd cynta'r blaid yng Nghymru, wrth i Boris Johnson sicrhau mwyafrif enfawr.

Mae disgwyl i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, annog aelodau i droi eu golygon at etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2021, gan obeithio defnyddio momentwm yr etholiad cyffredinol i gipio grym gan y Blaid Llafur ar ôl dros 20 mlynedd ym Mae Caerdydd.

Cafodd y blaid hwb yn y cyfeiriad yna gyda chyhoeddi arolwg barn Dydd Gŵyl Dewi ar ran BBC Cymru, a gafodd ei gynnal gan ICM Unlimited, oedd yn awgrymu y gallai'r Ceidwadwyr ennill nifer tebyg i Blaid Cymru a Llafur yn y Senedd newydd.