Capten Cymru'n galw am ymchwiliad i ymddygiad Marler
- Cyhoeddwyd
Mae Alun Wyn Jones wedi dweud y dylai'r awdurdodau rygbi edrych ar ddigwyddiad yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr ddoe - lle'r oedd hi'n ymddangos fod prop Lloegr wedi gafael yn ei organau rhyw.
Yn ôl capten Cymru doedd e ddim yn siŵr sut i ymateb i'r digwyddiad: "Mae'n ddiddorol a beth fydde chi yn gwneud yn y sefyllfa yna?
"Rydw i wedi ennill 138 gem brawf i fy ngwlad, ond os ydw i'n ymateb a chael cerdyn coch mae'n anodd.
"Gobeithio gwneith yr awdurdodau edrych ar y digwyddiad."
Yn ôl Jones fe wnaeth e ysgwyd llaw â Marler ar ddiwedd y gêm, ond wnaeth e ddim siarad â'r prop.
Yn ôl rheolau'r gêm: "Ni ddylai chwaraewr wneud unrhyw beth sydd yn groes i ysbryd da'r gêm gan gynnwys gafael, troi neu wasgu'r organau rhyw."
'Joe yn ddyn da'
Fe allai unrhyw drosedd gael cosb o waharddiad rhwng 12 a 208 wythnos.
Dywedodd Jones: "Mae Joe yn ddyn da ac mae lot o bethau yn digwydd ar gae rygbi.
"Fy nghwestiwn i yw bod e'n anodd iawn siarad â'r dyfarnwr ynglŷn ag unrhyw beth.
"Fe edryches i ar y llimanwr ond welodd e ddim byd, sy'n iawn."
Mewn ymateb i'r gêm, canlyniad siomedig i Gymru er gwaethaf ymdrech fawr yn yr ail hanner, dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac: "Byddwn yn adolygu'r gêm ac fe fyddwn ni'n galed ar ein hunain.
"Rydym yma i ennill gemau prawf. Dyw hynny heb ddigwydd yn yr wythhosau diwethaf, felly mae'n rhaid i ni ddysgu,
"Mae gennym gêm mewn saith niwrnod yn erbyn yr Alban ac mae'r bwysig ein bod yn parhau i wella."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2020