Coronafeirws: Mesurau brys Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
MasgiauFfynhonnell y llun, PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yr achosion yn Nghymru wedi codi i bedwar ddydd Sul

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru fabwysiadu grymoedd newydd i gau ysgolion a cholegau os oes angen er mwyn delio â'r argyfwng coronafeirws.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething AC bydd cyfreithiau newydd fydd yn cael eu cyflwyno yn San Steffan er mwyn delio a'r coronafeirws yn berthnasol i Gymru hefyd.

Bydd deddfwriaeth frys llywodraeth y DU yn cynnwys cyflwyno rheolau newydd fydd yn caniatáu i bobl adael eu swyddi arferol am gyfnod os ydyn nhw'n gwirfoddoli i helpu mewn argyfwng.

Mae mesurau yn cael eu cyflwyno hefyd er mwyn caniatáu i lysoedd barn ddefnyddio cysylltiadau fideo er mwyn cynnal achosion.

Hefyd fe allai staff y gwasanaeth iechyd sydd wedi ymddeol yn ddiweddar cael eu hailgofrestru ar frys os oes angen.

'Gweithio'n barhaus'

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r grymoedd brys yma yn caniatáu i ni ymateb yn gyflym ac effeithiol i Covid-19 trwy gryfhau ein grymoedd cwarantin a grymoedd i reoli digwyddiadau torfol.

"Bydd yn caniatáu i ni gyflogi gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd yn ddiweddar, ac yn caniatáu i ni gau ysgolion a cholegau os oes angen er mwyn rheoli'r haint.

"Diogelwch y cyhoedd yw fy mlaenoriaeth uchaf ac rydym yn gweithio yn barhaus i ddeilio ag effaith Covid-19.

"Bydd mesurau pellach yn cael eu cyflwyno'r wythnos hon er mwyn rhoi cyfarpar amddiffyn personol i ganolfannau iechyd a meddygon teulu.

"Hefyd byddwn yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer defnyddio cysylltiadau fideo er mwyn amddiffyn staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd."