Anthem newydd i gefnogwyr pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ail Symudiad
Disgrifiad o’r llun,

Ail Symudiad a'r Barry Horns

Gyda chefnogwyr pêl-droed Cymru yn croesi bysedd y caiff pencampwriaeth Euro 2020 ei chynnal ym Mehefin, er gwaethaf bygythiad haint coronafeirws, mae'r band Ail Symudiad wedi bod yn brysur yn eu stiwdio yn Aberteifi.

Am y tro cyntaf mewn sengl Gymraeg, mae band pres y Barry Horns wedi ymuno ag Ail Symudiad.

Addasiad yw 'Dilyn Cymru' o'r gân 'Symud Trwy'r Haf' a gyhoeddwyd yn 1982.

Mae'r ddau frawd, Richard a Wyn Jones, wedi bod yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru ers y 70au.

"Ni'n ffans mowr, a naethon ni feddwl y bydde hi'n neis neud cân am dîm Cymru a chael y Barry Horns i mewn ar y gân," meddai Richard Jones, lleisydd a gitarydd Ail Symudiad.

Ond nid cân ar gyfer Euro 2020 yn unig yw hon.

"Mae hon ar gyfer bellach mlân na'r Ewros, i Gwpan Y Byd, y friendlies, ddim jyst i'r Ewros, ond digwydd bod mai honno sy' ymlaen eleni."

Tro cyntaf yn Gymraeg

Mae Wyn Jones, gitarydd bâs Ail Symudiad yn falch iawn bod band pres y Barry Horns wedi cytuno i ymuno â nhw ar y trac hwn.

"Ry'n ni wrth ein boddau gyda be ma'r Barry Horns yn 'neud , a dwi'n edrych mlân i wneud y peth terfynol nawr.

"Mae'r Barry Horns yn codi'r awyrgylch yn Stadiwm Dinas Caerdydd - ma' nhw'n wych!" meddai Richard Jones.

Yr aelod o'r Barry Horns sy'n chwarae'r sacsoffon ar y trac Dilyn Cymru, yw Chris Leek.

"Roedd hi'n bwysig i fi a chwpwl o aelodau eraill, achos dyma'r tro cyntaf i ni chwarae mewn sengl yn yr iaith Gymraeg, ac wrth gwrs mae'r gân am bêl-droed, felly roedd hynny'n berffaith i ni!"

Y bwriad yw rhyddhau 'Dilyn Cymru' fis Ebrill, ond dyw bygythiad y coronafeirws ddim yn ormod o gwmwl dros gynlluniau Ail Symudiad, wrth i Gymru baratoi i chwarae yn Baku, Azerbaijan, a Rhufain yn yr Eidal yr haf hwn.

"Os bydd hi'n cael ei chlywed yn Baku - grêt. Os na, gobeithio y caiff hi ei chwarae mewn llefydd eraill, wedi i'r afiechyd ofnadwy yma ddod i ben.

"Mae Mehefin yn agos erbyn hyn, ond y peth pwysig yw bod pobol yn gwella. Mae unrhyw chwaraeon yn eilradd i gymharu ag iechyd."