ERW: Sir i gefnu ar gonsortiwm addysg?
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r corff sy'n gyfrifol am geisio gwella safonau addysg yn y gorllewin a'r canolbarth golli un o'i brif barnteriaid.
Cafodd Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ei sefydlu yn 2012 ac mae'n cwmpasu siroedd Ceredigion, Castell-nedd, Sir Benfro, Powys ac Abertawe yn ogystal â Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Gâr yn trafod a ydyn nhw am barhau i ariannu'r corff rhanbarthol.
Bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr yn cwrdd ddydd Llun i benderfynu a ddylid gadael y consortiwm, er mwyn cefnogi trefniant newydd fyddai wedi ei selio ar Ranbarth Bae Abertawe.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi cyhoeddi ei fod am gefnu ar ERW.
'Amseroedd anodd'
Dywedodd y cynghorydd Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ei fod yn cydnabod fod y consortiwm wedi cyflawni nifer o bethau positif yn y blynyddoedd diwethaf.
"Ond," meddai, "mae'n deg dweud ei fod hefyd wedi gorfod goroesi amseroedd anodd gyda newidiadau o ran arweinyddiaeth wleidyddol ac o blith rheolwr.
"Mae maint daearyddol ERW hefyd wedi ychwanegu at yr heriau."
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd gweithredol pe bai penderfyniad o blaid newid cyfeiriad yna byddan nhw'n "gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd mewn modd mor llyfn â phosib".
Mewn ymateb i benderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i ail-ystyried ei ran o fewn ERW, dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, aelod o gabinet Cyngor Sir Powys: "Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion ar draws y sir gan ERW.
"Mae'n siomedig fod partneriaid wedi penderfynu sefydlu trefniadau eraill.
"Rydym wedi dechrau ystyried trefniadau eraill i'r dyfodol ac fe fyddwn yn gweithio gydag ERW a phartneriaethau awdurdodau lleol i sicrhau proses o drosglwyddo arbenigedd a sefydlu trefniadau i'r dyfodol, tra'n cadw lefel uchel o gefnogaeth mewn blwyddyn o newid."
Yn 2018 fe gafodd llythyr ei anfon ar ran bwyllgor archwilio o gynghorwyr chwe awdurdod lleol ERW yn crybwyll diffyg cynnydd wrth gyflwyno diwygiadau a galw am "amserlen glir a chynllun gweithredu... ar frys".
Mae ERW yn un o bedwar consortiwm rhanbarthol yng Nghymru gafodd eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru.
Eu nod yw dosbarthu grantiau a gwella safonau mewn ysgolion ar ran y cynghorau.
Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018