Cyflwyno cyhoeddiadau Cymraeg i orsafoedd trên
- Cyhoeddwyd
Bydd cyhoeddiadau Cymraeg ar gael mewn dros 170 o orsafoedd trên erbyn diwedd mis Mawrth, yn ôl Trafnidiaeth Cymru.
Yng Ngorffennaf y llynedd fe ddywedodd adroddiad ar ran Comisiynydd y Gymraeg fod gweinidogion Cymru yn torri'r gyfraith drwy beidio â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau Trafnidiaeth Cymru.
Cafodd y system newydd ei dreialu ym Mhorthmadog, Ystâd Trefforest, Sgiwen, Hengoed a Phont-y-clun ddiwedd y llynedd.
Amazon ac IVONA sy'n berchen ar y dechnoleg newydd o'r enw Geraint ac mae'n gallu darparu cyhoeddiadau teithio Cymraeg a newidiadau munud olaf.
Mae yna 222 o orsafoedd trên yng Nghymru. Yn ôl TrC dim ond chwarter o'r rhain oedd â system oedd yn gweithio i'r Gymraeg.
Roedd gan y gweddill hen system testun-i-lais oedd yn cael trafferth ynganu'r Gymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Roedd diffyg cyhoeddiadau sain mewn gorsafoedd ac ar drenau yn Gymraeg ymysg y cwynion oedd yn rhan o'n hymchwiliad i wasanaeth Cymraeg Trafnidiaeth Cymru.
"Roedd nifer o gwynion eraill hefyd yn rhan o ymchwiliad y Comisiynydd.
"Rydym nawr yn ystod y cyfnod apêl, pan all Gweinidogion Cymru apelio yn erbyn ein dyfarniad terfynol. Ni fydd modd i ni roi sylw pellach nes diwedd y cyfnod hwnnw."
Geraint 'yn gwneud gwahaniaeth'
Dywedodd Gweirydd Davies, Pennaeth Strategaeth Gymraeg Trafnidiaeth Cymru: "Mae creu system drafnidiaeth ddwyieithog yn flaenoriaeth i ni yn TrC ac rydyn ni'n gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni ein nodau.
"Bydd 'Geraint' yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg.
"Doedd yr hen dechnoleg ddim yn addas i'r diben o ran y Gymraeg, felly roedd yn rhaid i ni ganfod ateb newydd a'i ddatblygu ein hunain.
"Mae'n gam yn y cyfeiriad cywir o ran gwneud ein rhwydwaith yn ddwyieithog ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygiadau tebyg o ran ein systemau cyhoeddiadau ar drenau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2020