Gwahardd dau o chwaraewyr Lloegr wedi gêm Cymru

  • Cyhoeddwyd
Marler a JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Joe Marler (chwith) yn rhydd i chwarae eto ar 8 Mehefin 2020

Mae dau o chwaraewyr Lloegr wedi cael eu gwahardd yn sgil digwyddiadau yn ystod y gêm yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad y penwythnos diwethaf.

Cafodd prop Lloegr, Joe Marler ei wahardd am 10 wythnos gan banel disgyblu ddydd Iau.

Roedd capten Cymru, Alun Wyn Jones wedi honni bod Marler wedi gafael yn ei organau rhyw yn ystod y golled ar 7 Mawrth.

Ddaeth y panel i'r casgliad fod Marler wedi torri rheol 9.27 - ni ddylai chwaraewr... afael, neu wasgu'r organau rhyw - a'i fod yn haeddu cerdyn coch.

Ond roedd Marler wedi anghytuno fod ei weithredoedd yn haeddiannol o gerdyn coch.

Tuilagi a Lawes

Cafodd canolwr Lloegr, Manu Tuilagi ei wahardd hefyd am bedair wythnos am dacl anghyfreithlon ar George North.

Yn wahanol i Marler, cafodd Tuilagi ei anfon oddi ar y cae yn y gêm honno.

Ni fydd Courtney Lawes, clo Lloegr, yn wynebu unrhyw gamau pellach wedi i'r panel disgyblu ddyfarnu nad oedd ei dacl ar Alun Wyn Jones yn yr un gêm yn haeddu cerdyn coch.