'Angen ehangu gofal plant am ddim i gau'r bwlch tlodi'

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd dim ond rhieni sy'n gweithio sy'n gymwys am 30 awr o ofal plant am ddim

Fe allai rhoi gofal plant am ddim a helpu gyda chostau llety helpu cau'r "bwlch tlodi" mewn perfformiad disgyblion, yn ôl melin drafod.

Mae cyrhaeddiad disgyblion o gefndiroedd tlotach yn sylweddol yn waeth na disgyblion o gefndiroedd mwy breintiedig ar gyfartaledd.

Yn ôl Victoria Winckler o Sefydliad Bevan fe allai Llywodraeth Cymru wneud mwy i leddfu achosion y bwlch tlodi.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu" i gau'r bwlch.

Y bwlch ddim yn cau

Mae asesiadau athrawon o blant tair i saith oed yn dangos gwahaniaeth mawr rhwng cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach a'r gweddill.

Gyda phlant sydd ddim yn derbyn prydau ysgol am ddim, mae 84% ohonynt yn cyrraedd neu'n gwneud yn well na'u targed.

Ond dim ond 64% o blant sydd yn gymwys am brydau ysgol am ddim sy'n cyrraedd eu targed.

Fis diwethaf dywedodd y prif archwilydd ysgolion nad yw'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant tlawd a rhai mwy breintiedig wedi cau yn y degawd diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Victoria Winckler bod gan weinidogion Cymru "lawer o ddylanwad ar gostau"

Dywedodd Ms Winckler wrth raglen BBC Politics Wales: "Does gan Lywodraeth Cymru ddim pŵer dros bopeth - dyw hi ddim yn rheoli'r system dreth na'r system fudd-daliadau, ond mae ganddo lawer o ddylanwad ar gostau.

"Costau llety a gofal plant yn enwedig, ac fe allai wneud lot i gefnogi teuluoedd a rhoi hwb i'w hincwm trwy'r ffyrdd hynny."

Mae rhieni sy'n gweithio yn gymwys am 30 awr o ofal plant am ddim i blant tair a phedair oed yng Nghymru.

Ond dywedodd Ms Winckler y dylai gweinidogion Cymru dorri ar nifer yr oriau a'i wneud ar gael i bob rhiant.

Dywedodd y byddai cynnig 15 awr yr wythnos o ofal plant i bob rhiant, os ydyn nhw'n gweithio ai peidio, yn "llawer mwy effeithiol yn cyrraedd teuluoedd ag incwm llai".

'Arbed £2,000 y flwyddyn

Ar gostau llety, dywedodd y gallai Llywodraeth Cymru wneud "llawer mwy" i leddfu'r problemau mae hi'n credu sy'n cael eu hachosi gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gau'r bwlch, "gan gynnwys helpu pobl gyda chostau gofal plant a sicrhau bod ganddyn nhw dŷ fforddiadwy i fyw ynddo".

Ychwanegodd llefarydd: "Mae polisïau Llywodraeth Cymru fel presgripsiynau am ddim, prydau ysgol am ddim, Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chynnig gofal plant hael yn golygu bod nifer o deuluoedd yng Nghymru yn arbed dros £2,000 y flwyddyn."

Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul, 15 Mawrth.