Cyllideb 2020: Llywodraeth Cymru'n 'edrych am wendidau'

  • Cyhoeddwyd
Simon Hart
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Hart y byddai Cymru'n cael "llawer o arian am y tro cyntaf mewn cyfnod hir iawn"

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "edrych am wendidau" yn dilyn ei beirniadaeth nad yw'r Gyllideb yn gwrthdroi'r cyfnod o lymdra.

Dywedodd Simon Hart fod cynlluniau ariannol y Canghellor yn golygu y byddai "llawer o arian" yn mynd i Gymru "am y tro cyntaf mewn cyfnod hir iawn".

Ond mae Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans AC wedi dweud ei fod "prin yn mynd â ni yn ôl i le'r oedden ni 10 mlynedd yn ôl".

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru'n cynyddu ryw £1bn dros y flwyddyn ariannol nesaf, yn ôl Llywodraeth y DU.

Roedd y £360m ychwanegol i Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn y Gyllideb dydd Mercher ar ben y £600m ychwanegol a gyhoeddwyd yn yr adolygiad gwariant fis Medi diwethaf.

Yn gyffredinol, bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn £12.8bn yn 2020/21 ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, a £2.4bn ar gyfer isadeiledd.

'Beth maen nhw eisiau?'

Mewn cyfweliad â rhaglen BBC Politics Wales, dywedodd Mr Hart: "Os mai'r gorau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw dweud 'wel, nid oedd cystal ag yr oedd ddegawd yn ôl' yna rwy'n credu bod nhw'n edrych am wendidau.

"Fe wnaethon nhw gwyno am yr hyn sy'n cael ei alw'n aml yn llymder 10 mlynedd yn ôl, tra roedden ni'n ei ystyried yn ffordd angenrheidiol o adfer economi oedd wedi torri bryd hynny.

"A phan rydyn ni, mewn ffordd, yn canslo llymder ac yn dweud 'rydyn ni'n ôl i'r man rydyn ni eisiau bod, rydyn ni'n mynd i fuddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd yng Nghymru', mae'r un bobl yn cwyno. Beth maen nhw ei eisiau?"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Evans ddydd Mercher fod y Gyllideb "prin yn mynd â ni yn ôl i lle'r oedden ni 10 mlynedd yn ôl"

Fel rhan o'u dadansoddiad o'r Gyllideb, dywedodd melin drafod y Resolution Foundation nad oedd yn gwneud "bron dim i wneud iawn am y toriadau sylweddol mewn buddsoddiadau a roddwyd ar waith gan [y cyn-Ganghellor] George Osborne yn 2015".

Mae eu hadroddiad hefyd yn dweud: "Mae'r toriadau hyn yn golygu bod incwm y teuluoedd tlotaf wedi gostwng dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae risg y bydd tlodi plant yn cyrraedd ei lefelau uchaf erbyn etholiad 2024."

Mae cyfran y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi gostwng i lai nag un o bob tri, sef 29%.

Er gwaethaf hynny, mae 22% o blant yn byw mewn tlodi er bod eu rhieni yn gweithio.

'Cytgan negyddol cyson'

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Mr Hart: "Rwy'n anghytuno â'r cytgan negyddol cyson yma bod cael economi sy'n gweithio ac yn creu swyddi ddim yn cael effaith fuddiol ar bobl ar fudd-daliadau.

"Wrth gwrs mae'n gwneud hynny. Rydyn ni'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod pobl sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau, neu'n ddibynnol ar y system les, neu'n ddibynnol ar y gwasanaeth iechyd yn derbyn gofal priodol.

"Dyna'n union beth rydyn ni'n ceisio ei wneud ac mewn gwirionedd mae'r niferoedd yn profi hynny."

Mewn cyfweliad â BBC Politics Wales ym mis Ionawr, dywedodd Ysgrifennydd Cymru y byddai manylion yn "dod i'r amlwg yn llythrennol mewn wythnosau yn hytrach na misoedd" ar gynlluniau'r Ceidwadwyr i gyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin yn lle rhaglenni cymorth economaidd yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Pan ofynnwyd iddo pam na chyhoeddwyd unrhyw fanylion ers hynny, dywedodd yr AS Ceidwadol: "Mae'n hollol iawn ei fod yn dod i lawr y cledrau.

"Rhaid i ni gytuno arno ac mae'n rhaid i ni ei gytuno â Llywodraeth Cymru ac mae'n rhaid i ni gytuno arno yn yr amserlen sydd gennym ni.

"Nid yw hynny wedi newid ers i ni siarad diwethaf ac mae'n debyg na fydd wedi newid pan fyddwn ni'n siarad nesaf chwaith."

Politics Wales, BBC One Wales, 10:00 ddydd Sul 15 Mawrth ac ar BBC iPlayer yn dilyn y darllediad.