Mam Conner Marshall yn ymgeisydd Comisiynydd Heddlu
- Cyhoeddwyd
Bydd mam bachgen 18 oed gafodd ei lofruddio yn sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu.
Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad ym mharc gwyliau Bae Trecco, Porthcawl ym mis Mawrth 2015.
Roedd y llofrudd David Braddon dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf pan ymosododd arno, ac fe gafodd ei garcharu am oes.
Mae Nadine Marshall nawr wedi ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad Comisiynydd Heddlu De Cymru'r flwyddyn nesaf.
Mae'r etholiadau, oedd i fod i gael eu cynnal mis Mai, wedi eu gohirio oherwydd haint coronafeirws.
Cyn cael ei dewis dywedodd Mrs Marshall bod ganddi "ddealltwriaeth enfawr" o sut all trosedd effeithio bywydau a chwalu teuluoedd.
Bydd pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol yn 2021, un i bob rhanbarth heddlu yng Nghymru.
Fe enillodd Mrs Marshall, sy'n dod o'r Barri, yr enwebiad mewn pleidlais o aelodau Plaid Cymru.
Bydd comisiynydd presennol Heddlu De Cymru, Alun Michael, yn ceisio cael ei ail-ethol ar ran Llafur.
Carolyn Webster fydd ymgeisydd y Ceidwadwyr, ac mae'r ymgeisydd annibynnol Mike Baker yn bwriadu sefyll eto.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y broses o ddewis ymgeiswyr ar hyn o bryd, ond mae'n bosib na fydd ganddyn nhw ymgeisydd ym mhob rhanbarth heddlu yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2020