Galw am drwsio ffordd brysur yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau ar Gyngor Sir Ddinbych i fynd ati ar frys i drwsio ffordd y B5105 ger Clawddnewydd oherwydd yr holl dyllau sydd ynddi.
Dywed gyrwyr eu bod wedi cael pynctiars dirifedi ac mae 'na ofnau y bydd damweiniau difrifol wrth i bobl osgoi'r tyllau.
'Dyw llenwi'r tyllau ddim yn ddigon da, yn ôl pobl leol - maen nhw'n galw am roi tarmac ar y ffordd.
Mae traffig cyson yn teithio ar y ffordd rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ac mae nifer o yrwyr yn cwyno am y tyllau mawr ar ddarn hir o'r ffordd ger Clawddnewydd.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y byddan nhw'n rhoi wyneb newydd ar y ffordd fis nesaf.
Un sydd wedi cael digon yw Ynyr Humphreys o Gerrigydrudion - bu'n rhaid iddo brynu teiar newydd am £250 yn ddiweddar ac aloi newydd ar ôl difrod.
Dywedodd: "Mae cyflwr y ffordd yn gywilydd... o'n i ar y ffordd i gwrs efo gwaith a chyrraedd Lerpwl a gweld bod 'na grac yn yr aloi a pynctiar.
"Pot holes yn y ffordd yn ochra Rhuthun oedd wedi achosi'r difrod."
Un arall sydd wedi cael digon ydy Alun Jones, hefyd o Gerrigydrudion.
"Mae hi'n ddifrifol… potholes yn bob man arni. Hities i un pothole ac mi fu'n rhaid i mi stopio oherwydd roeddwn i'n meddwl bod yr olwyn wedi dod ffwrdd, ond lwcus i mi doedd hi ddim," meddai.
Mae'r cyngor wedi bod yn llenwi rhai tyllau dros y dyddiau diwethaf ond mae trigolion lleol yn galw arnyn nhw i ailosod wyneb y ffordd sydd wedi cael ei effeithio gan y tyllau i gael ateb tymor hir i'r broblem.
'Gwaith yn dechrau fis Ebrill'
Dywedodd Llyr Gruffydd sy'n aelod Plaid Cymru dros Ogledd Cymru yn y Cynulliad bod "rhywun yn deall pam bod yn rhaid patsio bob hyn a hyn.
"Ond mae cyflwr y ffordd fel ag y mae yn golygu bod atebion dros dro ddim yn ddigon da, ac mae'r amser wedi dod nawr i flaenoriaethu… nid dim ond y ffyrdd prysuraf ond y ffyrdd perycla', ac mae hon yn sicr ymhlith y rheiny."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod nhw'n ymwybodol o broblemau efo tyllau yn y ffordd a'u bod nhw'n ceisio sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n bwriadu arwynebu'r ffordd mewn amryw o leoliadau dros y misoedd nesaf, gyda'r gwaith yn cychwyn ym mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019