Carcharu dyn newidiodd ei enw i guddio'i orffennol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a newidiodd ei enw er mwyn cuddio'i orffennol tywyll wedi ei garcharu unwaith eto am droseddau'n ymwneud â cham-drin plant.
Cafodd Owain Jones, 34 oed o Landudno, ei garcharu am dair blynedd yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Roedd wedi cyfadde' rhannu delwedd anweddus ac o fod â delweddau o gam-drin plant yn ei feddiant.
Clywodd y llys fod yr heddlu wedi darganfod 516 o ddelweddau, gan gynnwys rhai "gwreiddiol" oedd ddim ar fas data'r heddlu.
Delweddau 'ffiaidd'
Dywedodd y bargyfreithiwr Sion ap Mihangel ar ran yr erlyniad fod y diffynnydd wedi cyfaddef ei fod yn cael ei gyffroi gan ddelweddau anweddus o blant, a'i fod wedi cael dedfryd o garchar gohiriedig yn 2007 am ddelweddu o'r fath.
Ar ran yr amddiffyniad dywedodd Jo Maxwell fod Jones wedi newid ei enw, a'i fod bellach yn awyddus i chwilio am help am ei ymddygiad.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod yr heddlu wedi cipio offer cyfrifiadurol gan Jones yn Ebrill 2018, gan ddod o hyd i ddelweddau o gam-drin plant a gafodd eu disgrifio mewn "manylder erchyll" yn y llys er mwyn dangos natur y troseddu.
Roedd y delweddau, meddai'r barnwr, yn "ffiaidd".
Cafodd gorchymyn 10 mlynedd i atal niwed rhywiol ei gyflwyno, ac fe fydd rhaid i Jones gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol.