Meddyg o Wynedd yn yr Eidal: 'Mae'r sefyllfa'n ddifrifol'

  • Cyhoeddwyd
rhys

Mae Rhys Welnitschuk yn wreiddiol o Ddolgellau, ond yn byw ar gyrion Milan yng ngogledd yr Eidal. Yr wythnos diwethaf fe raddiodd Rhys fel meddyg gyda gradd o Brifysgol Pavia.

Ond mae'r wlad sydd bellach yn gartref iddo mewn sefyllfa hynod fregus, gyda'r feirws Covid-19 yn cael effaith enfawr yno.

Mae 25,000 o bobl yn yr Eidal wedi dal Covid-19, neu Coronafeirws fel mae hefyd yn cael ei alw. Mae bron i 2,000 wedi marw, gyda bron i 400 o farwolaethau dros yr 24 awr diwethaf.

"Mae pethau yma wedi newid dros y 3-4 diwrnod diwethaf" meddai Rhys. "Doedd 'na ddim llawer o wahaniaeth i'w weld o safbwynt bywyd dydd i ddydd yr wythnos diwethaf, ond rŵan does 'na ddim llawer o bobl allan, yn cael coffi neu gwneud pethau arferol.

"Mewn rhai ardaloedd mae'r heddlu yn cychwyn rhoi dirwy i bobl sydd allan o'r tŷ heb reswm da, er enghraifft gwaith, siopa bwyd neu argyfwng."

Dim ond dydd Mercher diwethaf y graddiodd Rhys fel meddyg, ond doedd dim posib iddo fynd i'r seremoni raddio. "Cafodd y seremoni ei wneud dros Zoom (tebyg i Skype) yn hytrach na mewn person. Ar hyn o bryd dwi a fy nghariad yn aros yn y tŷ a ddim yn mynd allan os nad oes yna reswm da i wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd yna ddim seremoni swyddogol ym Mhrifysgol Pavia ond mae gobaith y bydd un yn cael ei gynnal mewn ychydig fisoedd

Dydi Rhys heb ddelio yn uniongyrchol gyda phobl sydd â'r feirws eto ond mae'n dweud bod yr amodau i'r gweithiwyr meddygol sydd ar y llinell flaen yn anodd. "O glywed newyddion gan ffrindiau a doctoriaid lleol, mae'r sefyllfa'n ddifrifol.

"Tydi gwisgo mwgwd ddim yn angenrheidiol i bobl sydd allan, ond mae'r doctoriaid i gyd yn gorfod gwisgo mwgwd yn eu gwaith."

Rhedeg allan o wlâu

"Mae'r ysbytai yn llenwi'n gyflym a'r ofn ydi bo' ni'n rhedeg allan o wlâu.

"Mae sawl ysbyty wedi gorfod newid wardiau eraill i fod yn unedau gofal dwys dros dro, ac oherwydd hyn mae rhan fwyaf o'r doctoriaid yn poeni gan fydd hyn yn gwneud hi'n anodd iawn i roi'r driniaeth gorau i bawb oherwydd prinder offer meddygol.

"Be' sy'n fy mhoeni i a meddygon sy'n gweithio yma ydi y bydd pethau'n mynd yn waeth, ac am y rheswm yma mae'r llywodraeth wedi cloi'r wlad lawr mewn ymdrech i rwystro'r lledaeniad a lleihau nifer y gwlâu sydd eu hangen mewn ysbytai."

'Niferoedd yn dal i godi'

Felly pa mor ddrwg all bethau fynd? Mae Rhys yn meddwl ei bod hi'n anodd dweud:

"Dwi'n gobeithio cyn hir fyddan ni'n gweld y niferoedd o gleifion newydd yn disgyn ac i'r sefyllfa gychwyn dilyn beth sydd wedi digwydd yn China, ble mae niferoedd newydd bob dydd yn llawer yn is erbyn hyn."

Ffynhonnell y llun, Stefano Guidi
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yng nghanol Turin wrth i ddyn fynd allan i nôl nwyddau angenrheidiol

"Ond does dim dweud pryd fyddem yn cyrraedd y pwynt yna achos ar hyn o bryd mae'r niferoedd o achosion yn dal i godi.

"Rydym yn gwybod mai pobl mewn oed a phobl efo afiechyd arall sy'n cael eu taro rhan amlaf, ond mae hi'n hollol bosib i bobl iau mewn iechyd da cael eu taro hefyd.

"Yn fwy na hyn, mae angen cofio bod lledaenu'r feirws yn hawdd iawn felly hyd yn oed os nad ydy person ifanc yn debygol o gwympo'n sâl iawn o'r feirws, mae'n ddigon tebygol iddyn nhw basio'r feirws i rywun â siawns uchel o wneud.

"Mae rhaid hefyd cofio bod ein GIG (NHS) ni ym Mhrydain yn gweithio bron iawn ar gapasiti llawn fel rheol, felly gyda sefyllfa fel hyn 'sa hi'n ddigon hawdd i'r GIG orlenwi ac i ni fethu delio efo pethau meddygol dydd i ddydd sydd dal i ddigwydd (e.e trawiad ar y galon, damweiniau car a.y.y.b)."

Gwersi o'r Eidal

Mae Rhys yn credu bod yna le i Gymru ddysgu o'r dulliau sy'n cael eu defnyddio yn yr Eidal.

"Fyny at yr wythnos diwethaf, roedd pobl yma yn mynd allan fel arfer. Mae sawl graff wedi edrych ar faint o gleifion newydd fydda yna yn ddyddiol os bydda'r amodau llym ar symud wedi eu rhoi mewn lle wythnos ynghynt."

Ffynhonnell y llun, ANDREAS SOLARO
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer sy'n sownd gartref, fel rhain yn Rhufain, wedi bod yn canu i basio'r amser, gan ddefnyddio hashnod #andratuttobene (bydd popeth yn iawn)

"Rydym yn gweld o'r dystiolaeth y bydda 'na lawer llai o bobl angen mynd i'r ysbyty dros amser byr, ac felly llawer llai o straen ar yr ysbytai a'r doctoriaid."

Cyngor i Gymru

Beth ydy'r cyngor fyddai Rhys yn ei roi i bobl yng Nghymru sydd yn gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr Eidal ac yn poeni?

"Yn fy marn i mi fyddai'n well aros adref am bythefnos, gan adael tŷ ond pan fod rhaid a chyfarfod â chyn lleied o bobl â sy'n bosib. Dydi'r feirws ddim yn dueddol o achosi salwch difrifol i bobl ifanc, ond mae yna enghreifftiau o bobl 20-40 oed hollol iach yn cael eu taro yn ddifrifol wael.

"Ond, y peth pwysig yw cofio pa mor hawdd yw hi i ledaenu'r feirws, ac felly fy nghyngor i er mwyn osgoi sefyllfa lle mae niferoedd enfawr o bobl angen triniaeth ysbyty o fewn amser byr yw aros adref a pharhau i olchi'ch dwylo."

Hefyd o ddiddordeb: