Coronafeirws: Galw am gau ysgolion a phrifysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn galw am gau ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn delio â haint coronafeirws.
Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru maen nhw'n dweud "bod cau ysgolion wedi profi i fod yn ffordd dda ddi-feddyginiaeth sy'n bosib i'w gweithredu".
Mae nifer o brifysgolion yng Nghymru eisoes wedi penderfynu atal addysgu wyneb yn wyneb am gyfnod.
Daeth cadarnhad gan Brifysgol Abertawe ddydd Llun eu bod wedi cael yr achos cyntaf o Covid-19 yno.
O ganlyniad, bydd addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei atal yno o ddiwedd dydd Llun gyda'r bwriad o droi at addysgu ar-lein erbyn dydd Llun 23 Mawrth.
Dywedodd datganiad gan y brifysgol y gallai'r sefyllfa aflonyddu ar arholiadau sydd ar y gweill, a'u bod yn adolygu'r sefyllfa.
Ar hyn o bryd fe fydd adnoddau'r brifysgol, gan gynnwys y llyfrgell a'r neuaddau preswyl, yn parhau yn agored.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y "byddai cau lleoliadau addysgiadol ar hyn o bryd yn gwneud fawr ddim i amddiffyn y mwyaf bregus".
Mae'r llythyr yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn "amhendant ac aneglur" tra bod sefydliadau unigol a chyrff yn dod i benderfyniadau eu hunain.
Ychwanega'r llythyr: "Er bod plant a phobl ifanc ddim yn cael eu taro'n sâl iawn gan salwch o'r math yma maent yn dueddol o gael heintiau fel Covid-19 ac yn gallu ei basio i eraill."
'Atal dysgu wyneb yn wyneb'
Yn y cyfamser mae nifer o brifysgolion wedi penderfynu atal addysgu wyneb yn wyneb am gyfnod.
Dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor eu bod wedi "penderfynu atal yr holl addysgu wyneb yn wyneb yn syth, hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd".
"Mae'r brifysgol yn cymryd y camau hyn ar gyfer iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach," meddai.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau hefyd eu bod yn "symud addysgu byw i lwyfannau ar-lein" yn ystod yr wythnos hon.
"Ein bwriad yw cynyddu'r darlithoedd ar-lein yn ystod yr wythnos gyda'r nod o sicrhau bod yr holl addysgu perthnasol yn cael ei gyflwyno ar-lein o ddydd Llun 23 Mawrth," meddai llefarydd.
Mae Prifysgol De Cymru hefyd wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnig darlithoedd ar-lein a'r wythnos nesaf.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi atal darlithoedd a dosbarthiadau wyneb yn wyneb hefyd.
Yn ôl y brifysgol bydd dosbarthiadau ar bob campws yn cael eu hatal tan 20 Ebrill fel man cychwyn, ac y bydd gweithgareddau academaidd yn parhau ar-lein.
Mae yna neges debyg gan Brifysgol Caerdydd - fe fyddan nhw'n cwblhau eu trefniadau terfynol ddydd Llun.
Y bwriad yw atal darlithoedd mor fuan â phosib, gan gynnig darlithoedd i fyfyrwyr ar-lein erbyn 23 Mawrth.
'Aros adref am 7 diwrnod'
Ddydd Sul dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru na ddylai pobl ffonio gwasanaeth 111 fel y cam cyntaf bellach os ydyn nhw'n amau fod ganddyn nhw coronafeirws.
Yn hytrach maen nhw'n dweud y dylai pobl aros adref am saith diwrnod, a dim ond cysylltu â'r gwasanaeth iechyd os nad ydyn nhw wedi gwella o fewn yr amser hwnnw neu fod eu cyflwr yn gwaethygu.
Dywedodd Cyngor Sir Merthyr Tudful y byddai Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ar gau ddydd Llun am ddiwrnod, a hynny er mwyn i'r safle gael ei lanhau "oherwydd bod aelod staff wedi derbyn triniaeth feddygol am coronafeirws dros y penwythnos".
Daeth cadarnhad hefyd bod Ysgol T Llew Jones yng Ngheredigion ar gau nes dydd Mawrth er mwyn i'r safle gael ei lanhau "gan fod mwy nag un aelod o staff wedi arddangos y symptomau".
Yn ogystal â hynny mae nifer o ddigwyddiadau, gwyliau a gemau chwaraeon yng Nghymru hefyd wedi cael eu canslo neu ohirio bellach, er nad oes gwaharddiad swyddogol wedi cael ei gyhoeddi eto.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra gallai ysgolion gau yn y dyfodol agos, mae'r cyngor gwyddonol a'n safbwynt yn glir - byddai cau lleoliadau addysgiadol ar hyn o bryd yn gwneud fawr ddim i amddiffyn y mwyaf bregus gan gynnwys pobl hŷn a allai ddod yn ofalwyr plant.
"Rydym yn gweithio gyda'r sector addysg ar bob lefel i ddarparu gwybodaeth a chyngor. Mae'r cyngor diweddaraf ar ein gwefan, dolen allanol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020