Cyn-seren Caerdydd, Peter Whittingham wedi marw yn 35 oed

  • Cyhoeddwyd
Peter WhittinghamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Whittingham yn gapten ar yr Adar Gleision yn ystod ei ddegawd gyda'r clwb

Mae cyn-chwaraewr pêl-droed Caerdydd, Peter Whittingham wedi marw yn 35 oed ar ôl disgyn mewn tafarn yn Y Barri.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i adeilad trwyddedig yno ar 7 Mawrth am tua 22:00.

Ychwanegodd yr heddlu ei bod hi'n ymddangos fod yr anaf i ben Whittingham wedi'i achosi gan gwymp damweiniol.

Fe ymunodd â'r Adar Gleision yn 2007 a mynd ymlaen i fod yn un o arwyr y clwb gan wneud 459 o ymddangosiadau a sgorio 98 gôl cyn gadael yn 2017.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Chwaraeon Radio Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Chwaraeon Radio Cymru

'Torri ein calonnau'

Dywedodd y clwb mewn datganiad emosiynol: "Gyda thristwch anfesuradwy mae'n rhaid i ni hysbysu ein cefnogwyr bod Peter Whittingham wedi marw yn 35 oed.

"Rydym yn torri ein calonnau. Mae'r newyddion am farwolaeth sydyn ac anamserol Peter wedi ein hysgwyd.

"Mae ein cariad yn mynd allan at ei wraig Amanda, eu mab a'u teulu ifanc. Maen nhw ar flaen ein meddyliau ac, ar eu rhan, rydyn ni'n gofyn am barchu eu preifatrwydd ar yr adeg mor greulon ac anodd.

"Yn gyntaf oll, dyn teulu oedd Peter - a rhywun a allai oleuo ystafell gyda'i synnwyr digrifwch, cynhesrwydd a'i bersonoliaeth.

"Yna, fel pêl-droediwr proffesiynol - fel un o'r Adar Gleision - fe ragorodd â thalent, rhwyddineb, gras a gostyngeiddrwydd. Doedd neb cystal.

"Bydd colli Peter yn cael ei deimlo'n boenus gan ein dinas, cefnogwyr ac yn wir pawb a gafodd y pleser o'i adnabod erioed. Rydyn ni'n dy garu Pete a byddwn yn dy gofio am byth."